Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi cael ar ddeall bod cytundeb wedi cael ei wneud i'r DU ddod yn aelod o Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Ar hyn o bryd mae'r Bartneriaeth hon yn cynnwys 11 o wledydd (Canada, Mecsico, Periw, Chile Seland Newydd, Awstralia, Brunei, Singapore, Malaysia, Fietnam a Japan) yn ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel.  Daeth i rym gyntaf ym mis Rhagfyr 2018.

Yn ôl y data diweddaraf, gwerth y masnachu nwyddau rhwng Cymru a’r CPTPP oedd £2.8bn yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2022 – gyda mewnforion yn cyfrif am £1.5bn ac allforion am £1.3bn. Aeth tua 6.3% o allforion nwyddau Cymru i aelodau'r CPTPP yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae'r cytundeb yn nodi newid pwysig ym mholisi masnachu'r DU tuag at ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel, gan ddangos pwysigrwydd cynyddol y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod y rhan fwyaf (tua 56.5%, £11.6bn) o allforion nwyddau Cymru yn parhau i fynd i farchnad yr UE. Er ein bod yn deall, efallai, pam mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysigrwydd o'r fath i'r cytundeb masnach hwn, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn llawn â'n cytundeb â'r UE, a rhaid iddo beidio â niweidio'r berthynas fasnachu rhwng y DU a'r UE neu osod cynsail ar gyfer cytundebau â phartneriaid masnachu eraill yn y dyfodol. 

Rydym bob amser wedi cefnogi agenda masnach rydd Llywodraeth y DU yn gyffredinol, a manteision posibl y gallai Cytundebau Masnach Rydd eu darparu ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae’r CPTPP yn wahanol i'r trafodaethau dwyochrog y mae'r DU wedi'u cynnal hyd yn hyn. Mae'r CPTPP bresennol yn gytundeb amlochrog ac, er bod rhai cyfleoedd ar gyfer ceisio eithriadau i'r cytundeb presennol, roedd angen i Lywodraeth y DU ddangos ei bod yn gallu cydymffurfio â thelerau'r CPTPP, yn hytrach na negodi darpariaethau newydd. Mae'n werth nodi hefyd fod Llywodraeth y DU eisoes wedi llofnodi, neu yn negodi, cytundebau masnach dwyochrog gyda llawer o aelodau'r CPTPP, fel Japan, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Mecsico.

O’r dechrau rydym wedi bod â phryderon ynghylch rhai elfennau o'r cytundeb presennol, pryderon sydd wedi parhau. Nid yw darpariaethau ym meysydd fel newid hinsawdd, llafur a grymuso economaidd menywod mor uchelgeisiol ag yr hoffem iddynt fod mewn Cytundebau Masnach Rydd, neu nad ydynt yn cynnwys mecanweithiau gorfodi cadarn. Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer Mecanwaith Setlo Anghydfodau Gwledydd sy'n Buddsoddi (ISDS). Nawr mae cytundeb wedi cael ei wneud, ac rydym yn gallu gweld y cytundeb yn ei gyfanrwydd, bydd fy swyddogion yn gweithio dros y misoedd nesaf i ddeall a yw ein pryderon wedi cael sylw, y mynediad i farchnadoedd y cytunwyd arno gydag aelodau'r CPTPP a lle, os o gwbl, bydd manteision i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru. Bydd adroddiad llawn yn amlinellu ein safbwynt mewn perthynas â'r DU yn ymuno â'r CPTPP yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Er bod gennym bryderon ynghylch y DU yn ymuno â'r CPTPP a'r effeithiau canlyniadol ar Gymru, mae’r trafodaethau ynghylch y DU yn ymuno wedi bod, at ei gilydd, yn gadarnhaol. Mae fy swyddogion wedi bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf, yn benodol yng nghamau hwyraf y broses ymuno, ac rydym wedi cael nifer o gyfleoedd i fynegi ein barn. Mae derbyn y Bartneriaeth  hon yn nodi gwelliant cyffredinol mewn ymgysylltu yn nodi gwelliant cyffredinol yn y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau wrth negodi cytundebau masnach yn y dyfodol.