Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, yn dilyn lladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau a'r ymwybyddiaeth gynyddol o anghydraddoldebau hiliol, gofynnais i Gaynor Legall arwain grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i gynnal archwiliad o henebion, adeiladau ac enwau strydoedd hanesyddol Cymru sydd â chysylltiadau â'r fasnach mewn caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig. Fe'i cefnogwyd gan dîm arbenigol bach yn Cadw.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gennym ddyletswydd i weithio tuag at Gymru sy'n fwy cyfartal. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae angen dealltwriaeth glir arnom o waddol y fasnach mewn caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'r archwiliad hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig, a fydd yn ein helpu i sefydlu perthynas onest mwy gwybodus â'n hanes. 

Cyhoeddir yr archwiliad heddiw, ac am y tro cyntaf mae'n dwyn ynghyd restr gynhwysfawr o bobl sydd wedi cael eu coffáu mewn cerfluniau, henebion, adeiladau ac enwau strydoedd yng Nghymru, sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r fasnach mewn caethweision neu â throseddau eraill yn erbyn pobl dduon.

Nid ailysgrifennu ein gorffennol yw nod y gwaith, ond myfyrio arno i ddeall beth mae coffáu pobl fel hyn yn ei olygu i bobl heddiw. Mae'n gyfle i ni fabwysiadu perthynas aeddfed â'n hanes, ystyried sut rydym yn cofio ein hanes a dod o hyd i dreftadaeth y gall pob un ohonom ei rhannu.

Mae'r archwiliad wedi dangos bod y fasnach mewn caethweision a cham-fanteisio trefedigaethol wedi'u gwreiddio yn economi a chymdeithas ein cenedl. Roedd morwyr a buddsoddwyr Cymru yn rhan o'r fasnach mewn caethweision. Roedd brethyn, copr a haearn o Gymru wedi'u creu ar gyfer marchnadoedd a oedd yn dibynnu ar gaethwasiaeth, ac roedd cynnyrch a ffermiwyd gan bobl a oedd wedi'u caethiwo yn cael ei fasnachu yng Nghymru. Roedd y cyfraniad hwn yn ganolog i ddatblygiad Cymru fel cenedl ddiwydiannol.

Nid bwriad yr archwiliad hwn yw enwi pobl a'u cywilyddio – mae'n ymwneud â chydnabod a dysgu o ddigwyddiadau'r gorffennol.

Dyma ran gyntaf gwaith llawer mwy cynhwysfawr o gydystyried sut rydym yn symud ymlaen gyda'r wybodaeth hon wrth i ni geisio anrhydeddu a dathlu ein cymunedau amrywiol. Ni fyddaf yn ceisio rhagweld unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r gwaith ehangach hwn, ond rhaid i'r archwiliad hwn fod yn fan cychwyn i sgwrs agored gyda'n cymunedau.

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i Pwy sy'n Cael eu Coffáu mewn Mannau Cyhoeddus. Gobeithio y bydd gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr archwiliad hwn, ac rwy'n awyddus i weld canlyniad ei waith cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau am y camau nesaf.

Hefyd, mae gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen yn amlygu'r ffaith mai prin iawn yw'r Cymry o gefndir Du neu Asiaidd sy'n cael eu coffáu yn ein cerfluniau ac yn enwau ein hadeiladau a'n strydoedd. Mae hyn yn gyfle i ni ystyried sut y gallem ddathlu natur amrywiol y Gymru fodern a chyfraniadau pob rhan o'n cymuned at ddatblygiad Cymru.

Hoffwn ddiolch i Gaynor Legall ac aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol am eu holl waith. Maent wedi cyflwyno gwaith cynhwysfawr ac awdurdodol sy'n trawsnewid ein dealltwriaeth o'n gorffennol cymhleth ac anesmwyth yn aml.