Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Wrth ddisgrifio fy Ngweledigaeth ar gyfer Diwydiant Morol a Physgodfeydd Cymru fis Tachwedd diwethaf, nodais fod deddfwriaeth ddomestig ac Ewropeaidd yn ysgogi newidiadau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.  Bydd llawer o’r newidiadau hyn yn digwydd dros y tair blynedd nesaf ac mae rhai ohonynt eisoes ar waith.  Mae angen i’r gwaith o ddatblygu trefn Gynllunio Morol newydd, gweithredu Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Newydd ac adolygu’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd a phenderfynu ar y ffordd rydym am reoli ein Parthau Cadwraeth Morol gael ei wneud ar yr un pryd.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion wneud y gwaith hwn gyda’i gilydd ac mewn dull cydgysylltiedig fel bod yr eitemau hyn yn cydlynu ond, yn bennaf, er mwyn i mi allu sicrhau bod yr wybodaeth yn gwneud synnwyr i’r  rheini sy’n defnyddio’n moroedd.  Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y rheini sydd â diddordeb ym moroedd Cymru a’u bod yn gallu cymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn.

Gan ddysgu o brofiadau’r blynyddoedd diwethaf, rwyf am adeiladu ar y gwaith da y mae Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru wedi’i wneud a chipio momentwm  y Grŵp Ffocws y Parthau  Cadwraeth Morol er mwyn sefydlu grŵp newydd fydd yn fy helpu ac yn rhoi cyngor i mi.  Bydd y grŵp hwn yn fforwm sefydlog i roi cyngor a help i Lywodraeth Cymru gynnal ei holl waith morol hefyd.  Enw’r grŵp newydd hwn fydd y Grŵp Cynghori ar Strategaeth Morol Cymru ac rwyf am iddo fynd ati’n rhagweithiol i gefnogi ein gwaith a byddaf yn ei annog i sefydlu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen hefyd.  Bydd hefyd yn gweithio â grwpiau  o randdeiliaid pysgodfeydd cyfredol: Grwpiau Pysgodfeydd y Glannau (IFG) a Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Môr (WMFAG).

Mae fy swyddogion wrthi’n sefydlu aelodaeth o’r grŵp hwn a Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, fydd y Cadeirydd.


Y tu hwnt i’r grŵp hwn, byddwn yn ymgysylltu’n eang â’r gymuned forol a physgodfeydd.  Un o’r pethau cyntaf a wnaethom ddefnyddio i geisio deall sut oedd pobl am ymgysylltu â ni oedd ymgysylltu â’r SPP.  Ar yr un pryd, rydym wedi cyhoeddi cyfeirlyfr Cymru o bartneriaethau arfordirol fydd yn helpu pob un ohonom i ddeall yr amrywiaeth o grwpiau a’r fforymau sydd â diddordeb ym moroedd Cymru.

Dyw Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru (WCMP) heb fod yn weithredol ers 2013 a bellach, mae wedi dod i ben yn swyddogol.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y Bartneriaeth dros y blynyddoedd ac am y cyfraniadau pwysig y mae wedi’i wneud wrth gefnogi Llywodraeth Cymru a symud polisi morol Cymru yn ei flaen.

Byddaf yn adolygu effeithlonrwydd y trefniadau newydd hyn mewn tair blynedd.