Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 24 Ionawr, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y gwaith ymgysylltu a datblygu roeddem wedi bod yn ymgymryd ag ef i gyflwyno’r Fframwaith Cenedlaethol ar Ymarfer Amlasiantaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghymru, y cyfeiriwyd ato cyn hyn fel y Strategaeth Genedlaethol ar Ymarfer Amlasiantaethol ar gyfer Plant. Gwella cysondeb yr ymarfer ledled Cymru a chefnogi ffordd o weithio seiliedig ar gryfderau ar draws asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau i blant oedd y rheswm dros fynd ati i wneud y gwaith hwn. Mae hyn yn rhan o’r diwygio radical o ran gwasanaethau cymorth i blant mewn gofal ac sy’n gadael gofal.

Rwy’n falch o ddatgan heddiw bod y Fframwaith Cenedlaethol ar Ymarfer Amlasiantaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant wedi ei gyhoeddi. 

Cafodd y Fframwaith hwn ei ddatblygu ar gyfer gwasanaethau plant yn bennaf, ond gellir ei addasu i’w ddefnyddio mewn unrhyw sefydliad sy’n gweithio gyda phlant. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi datblygu yn helaeth yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac mae asiantaethau yn rhannu arbenigedd, cymorth a chyllid i lywio plant drwy sefyllfaoedd sy’n gallu ymddangos yn anorchfygol. Pan fydd hyn yn gweithio yn dda, mae plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gyd yn gweld budd. Fodd bynnag, pan fydd trefniadau o’r fath yn methu, maen nhw’n ychwanegu at risg, oedi a chyfleoedd a gollwyd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd – gan arwain at ragor o rwystredigaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol a chynnydd yn eu llwyth gwaith. Mae angen i bob rhan o’r system fabwysiadu dull cydweithredol, sy’n seiliedig ar gryfderau, o ddatrys problemau, a nod y Fframwaith hwn yw ysgogi cynnydd a llwyddiant drwy ymarfer da.

Bydd y Fframwaith yn ddogfen weithio fyw a fydd yn ystyried y datblygiadau a’r newidiadau o ran ymarfer a’r dirwedd bolisi ledled Cymru, a bydd adnoddau yn cael eu cyhoeddi i gyd-fynd ag ef i gefnogi ymarfer amlasiantaethol. Heddiw, er enghraifft, rydym yn cyhoeddi’r cyntaf o’r adnoddau hyn – y Canllawiau Ymarfer Cenedlaethol ar Gymorth Therapiwtig i Blant â Phrofiad o Fod Mewn Gofal – ochr yn ochr â’r Fframwaith. 

Mae’r Canllawiau Ymarfer yn cyfeirio’r gwasanaethau therapiwtig sydd eisoes yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i weithio mewn partneriaeth agosach ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn derbyn cymorth therapiwtig ystyriol o drawma ar yr adeg iawn, yn y ffordd sy’n iawn iddynt hwy.

Mae gwrando ar leisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd a chynnal hawliau plant yn ganolog i’n gwerthoedd craidd yn Llywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau hyn wedi eu datblygu mewn ymateb i adborth a lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a ddywedodd wrthym fod angen gwell mynediad arnynt at gymorth iechyd meddwl a llesiant. Mae’r canllawiau wedi eu cydlunio â rhanddeiliaid, gan gynnwys gofalwyr maeth, rhieni sy’n mabwysiadu ac ymarferwyr.

Dechrau’r daith yw’r cyhoeddiadau hyn heddiw, a bydd rhagor o adnoddau yn cael eu rhyddhau ar-lein yn ystod y flwyddyn nesaf.