Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwy’n falch o ddatgan ein bod heddiw yn cyhoeddi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.  Mae’r Fframwaith yn rhan allweddol o’n Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, a bennodd y camau fydd yn cael eu cymeryd gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaid dros y bum mlynedd nesaf i drawsnewid safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.  Mae’n pennu disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd a bydd yn sbardun tyngedfennol bwysig ar gyfer gwella.  

Rwy’n benderfynol o roi cefnogaeth lawn i athrawon ac ysgolion wrth iddynt weithredu’r Fframwaith a gwella safonau llythrennedd a rhifedd.  Rwyf felly’n falch o gyhoeddi Rhaglen Gymorth Genedlaethol newydd.  Fel yr amlinellwyd gennyf yn fy natganiad ar Ragfyr 5, rydym yn buddsoddi dros £7 miliwn yn y Rhaglen hon i gynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion ac athrawon i helpu iddynt roi’r fframwaith ar waith yn effeithiol i sicrhau gwelliant yn y ffordd y caiff llythrennedd a rhifedd eu dysgu mewn ysgolion.  Caiff y Rhaglen Gymorth Genedlaethol ei lansio mewn pedwar digwyddiad rhanbarthol ym mis Mawrth.  Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ysgolion am y profion darllen a rhifedd.  

Yn ogystal â’r Rhaglen Gymorth Genedlaethol, mae cyfres o ganllawiau a deunyddiau hyfforddi dwyieithog ar-lein yn cael eu datblygu mewn ysgolion ar hyn o bryd i helpu iddynt weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cyn iddo ddod yn statudol ym mis Medi 2013.  Mae’r cyntaf yn y gyfres hon, y canllawiau a gweithdai hyfforddi cynllunio’r cwricwlwm wedi’u cyhoeddi heddiw hefyd ar wefan Dysgu Cymru.  

Daw’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm o fis Medi 2013, gydag asesiad ffurfiol yn erbyn y Fframwaith yn dod yn ofynnol o fis Medi 2014.  Fel rhan o’r dull graddol hwn o gyflwyno’r gofyniad i gynnal asesiadau yn erbyn y Fframwaith,  bydd gan ysgolion flwyddyn academaidd lawn i ganolbwyntio ar gynnwys y Fframwaith yn eu proses o gynllunio ar gyfer y cwricwlwm, ac yn eu dysgu a’u haddysgu cyn y bydd yn rhaid iddynt asesu cynnydd disgyblion yn ei erbyn.  Nid oes unrhyw newid yn yr amserlen ar gyfer cyflwyno profion darllen a rhifedd, fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mai 2013.