Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r stormydd diweddar, y negeseuon a ddaeth o COP30 a'r cyfleoedd ar gyfer twf o newid yn dweud wrthym fod angen datgarboneiddio ein heconomi ar frys. Rhaid i ni fod yn benderfynol. Rydym yn gwybod bod newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar wahanol sectorau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion mewn gwahanol ffyrdd. Rydym hefyd yn gwybod y gall mynd i'r afael â'r materion hyn roi arian ym mhocedi pobl, helpu pobl i fyw bywydau iachach mewn aer glanach a diogelu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr. Mae'r sgyrsiau ardderchog a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar yn tynnu sylw at yr angen i weithredu a chynnwys y bobl a'r cymunedau hynny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio. 

Yn Cymru Sero Net  – Cyllideb Garbon 2 (2021-2025) gwnaethom ymrwymiad i sicrhau 'pontio teg' oddi wrth economi sy'n cael ei gyrru gan danwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, gan ddysgu gwersi o drawsnewidiadau blaenorol. 

Yng Nghymru, mae pontio teg yn golygu cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dosbarthu'r manteision a'r costau'n deg ar draws cymdeithas yng Nghymru. Nod pontio teg yw darparu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus mewn partneriaeth â busnesau, gweithwyr a chymunedau ledled Cymru. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn sail i ddull Llywodraeth Cymru o gynllunio ar gyfer pontio teg. Mae hyn yn golygu ein bod am sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau. Rydym am gefnogi dull sy'n seiliedig ar systemau o ddeall a mynd i'r afael â risgiau a chyfleoedd.

Ar 2 Rhagfyr, cymerodd y Senedd gamau pwysig wrth gytuno i osod Cyllideb Garbon 4 (2031-2035) ar ostyngiad o 73% ar gyfartaledd yn erbyn y llinell sylfaen ac i gyflawni'r gostyngiadau mewn allyriadau sy'n ofynnol yng Nghyllideb Garbon 3 (2026-2030) drwy weithredu domestig, yn hytrach na phrynu credydau rhyngwladol. Wrth wneud hynny, rydym yn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl Cymru, ac yn manteisio ar y cyfle i wneud ein cymdeithas yn decach ar yr un pryd.

Heddiw, rydym yn falch o gyhoeddi'r Fframwaith Pontio Teg, sy'n nodi ein dull o gyflawni pontio teg yng Nghymru i sero net erbyn 2050. Mae'r Fframwaith wedi'i anelu at y rhai sy'n gweithredu ym maes yr hinsawdd, ar bob lefel o lywodraeth, mewn busnes, yn y trydydd sector, ac ar lefel gymunedol. 

Ein cam nesaf yw cydweithio â chyrff sector cyhoeddus, busnesau'r sector preifat a grwpiau cymunedol i helpu i ymgorffori'r Fframwaith yn eu ffyrdd o weithio. Byddwn yn gwrando ac yn barod i dderbyn ar y daith hon, i helpu sicrhau bod y lefel gywir o arweiniad a chymorth wedi'i dargedu yn cael ei ddarparu i'r rhai y mae ei angen arnynt, ac i addasu a gwella'r Fframwaith, lle bo angen. 

Rydym ni'n gwybod yn fras beth mae'n rhaid i ni ei wneud i gyrraedd sero net yma yng Nghymru. Bydd y manylion yn y cynllun sero net nesaf, sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn nesaf. Mae'r Fframwaith hwn yn canolbwyntio ar sut i wneud pethau yn hytrach nac ar beth i'w wneud. Bydd yn hanfodol wrth sicrhau bod y polisi a'r penderfyniadau a wneir i leihau ein hallyriadau yn cyflawni nid yn unig dyfodol gwyrddach, ond dyfodol tecach, i bawb yng Nghymru.