Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n hanfodol bod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru y seilwaith angenrheidiol i ddarparu triniaeth canser o ansawdd uchel. Ein tair canolfan ganser yng Nghymru yw'r canolfannau hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau canser a ddarperir ar draws y Gogledd, y De-orllewin a’r De-ddwyrain.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd yn y De-ddwyrain. Roedd yr ymrwymiad hwn yn cydnabod bod cynllun y Ganolfan Ganser Felindre bresennol wedi dyddio, ac nad yw o’r safon uchaf posibl, a bod angen cael cyfleuster modern, addas at y diben yn ei lle. Mae'r prosiect hwn yn un o dri phrosiect arfaethedig sydd i'w cyflawni gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru a ariennir gan refeniw, a fydd yn cefnogi buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cynlluniau eraill yn cynnwys gorffen gwaith i ddeuoli'r A465 o Dowlais Top i Hirwaun, a buddsoddiad ychwanegol ym Mand B rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi gweithio gyda chomisiynwyr ei Fwrdd Iechyd dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu cynigion ar gyfer Canolfan newydd, fel rhan o'i rhaglen ehangach ar gyfer newid rhanbarthol, Trawsnewid Gwasanaethau Canser. Mae datblygu'r Achos Busnes Amlinellol a'r gwaith cysylltiedig ar gyfer paratoi’r safle wedi galw am amrywiaeth o gyngor ymgysylltu, cymorth a thechnegol. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r achosion busnes.

Mae'r cynigion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru wedi bod yn destun proses graffu hir a manwl gan swyddogion. Derbyniodd Gweinidogion Cymru gyngor ar 1 Mawrth 2021 ac ar ôl ystyried hyn a’r ystod o ddyletswyddau statudol a roddwyd arnom ni fel Gweinidogion, rydym yn falch o gadarnhau ein bod yn cefnogi’r achosion busnes amlinellol ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd a'r gwaith o baratoi’r safle. Mae rhagor o bwyntiau penderfynu o flaen Gweinidogion Cymru o hyd ond mae'r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau ein bwriad i adeiladu ysbyty canser newydd y bwriedir iddo fod yn weithredol yn 2025.

Rydym ni’n dau yn ymwybodol bod y cynigion a gyflwynwyd wedi ysgogi cryn ddiddordeb ymhlith aelodau’r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y De-ddwyrain. Cafodd safbwyntiau cryf o blaid ac yn erbyn y cynnig eu rhannu â'r Aelodau a dadleuwyd yn eu cylch yn y Senedd. Rydym yn cydnabod cryfder y farn a fynegwyd a'r pryderon sydd wedi cael eu codi. Mae llawer wedi cwestiynu effaith amgylcheddol a model clinigol y ganolfan ganser. Mae'r pryderon hyn yn rhai cwbl ddilys i fod wedi eu codi ac maen nhw wedi galw am ystyriaeth ofalus. O ran effaith amgylcheddol datblygu'r safle hwn, yr awdurdod cynllunio lleol sy'n gyfrifol am y penderfyniad hwn. Fel Gweinidogion, rydym hefyd wedi cael ein sicrhau gan y cynlluniau a nodir yn yr achosion busnes dros gynnal y safonau uchaf o ran adeiladu cynaliadwy wrth godi’r ganolfan ganser a mynd ati mewn modd sensitif wrth leoli’r ysbyty a datblygu ar safle Dolau’r Gogledd.

Mae'r model clinigol a gefnogir gan y datblygiad hwn yn fater cymhleth iawn ac rydym wedi ystyried y dadleuon niferus o blaid cyd-leoli'r ganolfan ar safle ysbyty acíwt, gan gynnwys cyngor gan Ymddiriedolaeth Nuffield. Y bwriad yw datblygu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd fel canolfan a fydd yn cynnig triniaeth ddewisol ar gyfer canser, a bydd yn rhan o rwydwaith ehangach o ddarpariaeth gofal canser. Mae’r pwyslais yn y ganolfan ar ddarparu'r profiad gorau posibl i gleifion yn ystod y cyfnod mwyaf anodd i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Nid cynigion ar gyfer canolfan ganser sy'n rheoli cleifion sy’n ddifrifol wael ydynt, felly. Yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth y gofalwyd am y cleifion hyn bob amser, a bydd hynny yn parhau. Mae Byrddau Iechyd yn y De-ddwyrain yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Felindre i gryfhau ymhellach y trefniadau ar gyfer rheoli cleifion canser sy’n ddifrifol wael yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth. Bydd hyn yn cynnwys datblygu ‘hybiau’ Felindre a fydd yn darparu lle pwrpasol ar gyfer oncolegwyr o Felindre a chlinigwyr arbenigol o Fyrddau Iechyd eraill i gydweithio i reoli cleifion sy'n ddifrifol wael neu wrth ddarparu therapïau risg uwch neu arbrofol.

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar gydbwyso’r holl ystyriaethau hyn. Gall yr achos a gyflwynir wireddu llawer o fanteision amlwg cyd-leoli’r ganolfan gan gynnal hefyd yr hyn sy’n gynhenid i amgylchedd unigryw Canolfan Ganser Felindre ar gyfer darparu gofal canser. Rydym hefyd yn glir na allwn aros mwy na degawd am safle arall a all ddarparu ar gyfer model clinigol gwahanol. Byddai goblygiadau o ran gwytnwch ac ansawdd y gwasanaethau canser a gynigir yn y dyfodol pe benderfynir peidio â pharhau â’r cynnig hwn.

Gan fod penderfyniad wedi'i wneud yn awr, gobeithiwn y gall y gymuned leol a'r gymuned glinigol ddod at ei gilydd a pharhau i fynegi diddordeb yn y datblygiad hwn a fydd yn darparu gwasanaethau canser rhagorol, o ansawdd uchel y gallwn ymfalchïo ynddynt. Rydym yn deall cryfder y teimladau mewn perthynas â’r materion hyn ond, yn y pen draw, rydym i gyd yn rhannu'r un awydd i wella canlyniadau canser a sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn ar gael i ardal y De-ddwyrain a'i chymunedau am ddegawdau i ddod.