Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar ganlyniadau addysgol yn ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae gan y Grant Datblygu Disgyblion (PDG) ran allweddol i'w chwarae wrth gyflawni'r uchelgais hon drwy helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gyrhaeddiad sy'n wynebu ein dysgwyr mwyaf agored i niwed.
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, dyrannais £128 miliwn i ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i barhau i gefnogi'r dysgwyr hyn mewn meysydd allweddol megis cyflwyno dysgu ac addysgu o ansawdd uchel, datblygu ysgolion bro, a hyrwyddo iechyd a lles dysgwyr. Mae'r lefel hon o gyllid wedi'i chynnal yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Mae deinameg gymdeithasol newidiol, costau byw, a mwy o bwysau ar ysgolion a theuluoedd yn golygu bod mwy o blant angen cymorth i helpu i gyrraedd eu potensial. Mae hyn wedi arwain at bryderon nad yw'r PDG, er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol gennym ni, yn cyflawni popeth rydyn ni eisiau iddo ei gyflawni.
Mae cymhwysedd ar gyfer y PDG a'n Grant Hanfodion Ysgol yn gysylltiedig â'r hawl i brydau ysgol am ddim. Er ein bod yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i roi gwybod i deuluoedd am y cymorth sydd ar gael drwy gofrestru ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, rydym yn gwybod nad yw hyn yn cyrraedd pawb sydd angen cefnogaeth.
Mae'r PDG yn ganolog i'n huchelgeisiau i gau'r bwlch cyrhaeddiad. Dim ond os ydym yn hyderus bod y cyllid yn cyrraedd pawb sydd angen ei gefnogi, ac yn cael ei wario ar yr ymyriadau mwyaf effeithiol y byddwn yn gweld cynnydd o ran yr uchelgais hwnnw.
Er mwyn sicrhau bod y PDG yn cael yr effaith fwyaf i'n dysgwyr, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i fy swyddogion i gynnal adolygiad polisi o'r PDG. Bydd hyn yn cyfrannu at ein gwaith i fynd i'r afael ag argymhellion yr adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gennym gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a gyhoeddwyd mewn dwy ran yn 2023 a 2024, a bydd yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i wella ac ehangu canllawiau ar ddefnyddio'r PDG.
Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu opsiynau ar gyfer gwella:
- Sut rydym yn dyrannu ac yn ariannu'r PDG
- Sut rydym yn monitro defnydd ac effaith y PDG
- Sut rydym yn gwerthuso llwyddiant cyllid grant
Bydd yr adolygiad yn cwmpasu holl ffrydiau ariannu'r PDG, gan gynnwys PDG ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, PDG y Blynyddoedd Cynnar, a PDG ar gyfer dysgwyr mewn Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Bydd yn nodi sut y gallwn wella dyluniad y grant er mwyn galluogi ein hysgolion, ein lleoliadau a'n hawdurdodau lleol i ddarparu safonau a dyheadau uchel i bawb, fel y gall pob plentyn, waeth beth fo'i gefndir economaidd-gymdeithasol, gyflawni ei botensial.
Fodd bynnag, rwyf am fod yn glir na fydd unrhyw newidiadau i'r PDG cyn 2027. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach yn cael cyfle i ystyried a rhoi sylwadau ar unrhyw gynigion sy'n deillio o'r adolygiad, a'n bod yn caniatáu amserlen glir ar gyfer pontio os bydd unrhyw newidiadau.
Disgwyliaf gyngor cynnar cyn diwedd Tymor y Senedd hon a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn unol â hynny.
