Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, bûm wrth fy modd yn lansio’r Gronfa Arloesi Digidol mewn partneriaeth â Nesta a’r  ‘Lab’ – Prifysgol Cymru. 

Mae digidol wedi gweddnewid y ffordd y mae pobl yn byw ac mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ddefnyddio dulliau digidol i weddnewid y ffordd y maent yn rhyngweithio â dinasyddion.

Lle’r ydym wedi gweld arferion gorau yn y maes hwn, mae’n glir bod arweiniad – ac awydd i weithredu  - a hynny o bob rhan o’r Cyngor.  Mae hyn yn gofyn am:

  • Arweinyddiaeth wleidyddol o’r brig 
  • Arweinyddiaeth weinyddol, er mwyn ysgogi newidiadau sy’n mynd i bara 
  • Gorfodaeth ariannol glir a oedd yn golygu nad oedd dim dewis ond gweithredu
Rydym wedi penodi Prif Swyddog Digidol yn ddiweddar ac, ynghyd â’r Dirprwy Weinidog Sgiliau, rwyf yn  cadeirio Gweithgor Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, sy’n ysgogi cynnydd.  Mae cymaint o ddatblygiadau diddorol a chadarnhaol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er hynny, dengys yr ymchwil a gynhaliwyd yn gynharach eleni fod cryn waith i’w wneud o hyd wrth alluogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd arloesi digidol.  
Yn y tymor byr, bydd ein ffocws ar ddigidol yn codi proffil y cyfleoedd y mae’n eu rhoi i wasanaethau cyhoeddus, i ddatblygu pobl â’r sgiliau cywir i wneud gwahaniaeth ac i alluogi arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus i ddeall sut y gall digidol eu helpu - a’u hannog i greu cyfle i arloesi ddigwydd.  

Mae’r gronfa ei hun yn cefnogi gweithgarwch yn y meysydd hyn ac yn darparu buddsoddiad i gefnogi prosiectau arloesol.  

Rwyf yn credu y dylai digidol fod yn flaenoriaeth allweddol i bob un o arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Mae’r Gronfa Arloesi Digidol yn bodoli i gefnogi arloesi ac i ddod ag arbenigwyr ynghyd i feithrin gallu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.