Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 18 Mehefin na fyddwn yn symud i lefel rhybudd un am o leiaf bedair wythnos arall o ganlyniad i’r amrywiolyn Delta, rwyf wedi cyhoeddi cylch pellach o'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF). Bydd y cylch hwn yn targedu’n benodol fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 yn parhau i gael effaith sylweddol ar eu gallu i weithredu.

Bydd y cylch hwn o'r Gronfa yn darparu grantiau argyfwng a grantiau pontio gwerth hyd at £25k i fusnesau cymwys i helpu i dalu eu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021.

Bydd y pecyn yn darparu grantiau i fusnesau sy'n aros ar gau neu fusnesau y mae cyfyngiadau lefel rhybudd 2 COVID-19 a'r trosglwyddiad i gyfyngiadau lefel rhybudd un yn parhau i effeithio’n sylweddol arnynt.

Bydd y Gronfa yn cefnogi busnesau sydd naill ai’n:

a) Gorfod aros ar gau neu fusnesau na allant fasnachu yn sgil y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021

b) Gofod digwyddiadau ac atyniadau y mae’r rheoliadau parhaus ynghylch cadw pellter cymdeithasol yn effeithio’n ddifrifol arnynt

c) Busnesau eraill nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021, gydag effaith o >60% ar eu trosiant o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus

d) Busnesau o fewn cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu o fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c)

Ac (yn berthnasol i bawb):

e) Sydd wedi profi effaith ddifrifol yn sgil gostyngiad o 60% neu fwy yn eu trosiant ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu'r cymorth grant i fusnesau sydd â throsiant blynyddol o fwy na £85k ac Awdurdodau Lleol fydd yn ei ddarparu ar gyfer busnesau sydd â throsiant blynyddol o dan £85k.

Bydd gwiriwr cymhwysedd sy'n rhoi manylion ynghylch faint y gall busnesau gyflwyno cais amdano ac sy’n cynnwys manylion am sut i wneud cais ar gael ar wefan Busnes Cymru o 12pm ar 5 Gorffennaf.

Bydd angen i fusnesau cymwys gyflwyno cais a datganiad ar-lein syml i wneud cais hyd yn oed os ydynt wedi derbyn cyllid drwy gylchoedd blaenorol o’r Gronfa. Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn cyfeirio busnesau i'r lle iawn i wneud eu cais.

Bydd y cam ymgeisio yn agor ar 13 Gorffennaf ac yn parhau ar agor tan 12pm ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.

Hwn fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i'r rhai sy'n gallu masnachu, oni bai fod hynt y pandemig yn golygu bod angen ail-gyflwyno cyfyngiadau cau neu gyfyngiadau masnachu sylweddol iawn.