Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno ar 21 Rhagfyr i fynd i'r afael ag amrywiolyn Omicron yng Nghymru, gan gynnwys cynnal chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig o 26 Rhagfyr ymlaen, cyhoeddwyd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3 miliwn ar yr un pryd i gefnogi'r sector.

Cyn i'r cyfyngiadau ar gyfer chwaraeon gwylwyr lacio y penwythnos hwn, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod cam cyntaf y cymorth, ar gyfer y cyfnod rhwng 26 Rhagfyr a 9 Ionawr, yn cael ei ddyrannu.

Mae'r cam cyntaf yn darparu cyllid o £1,024,100 i gemau pêl-droed, rygbi'r undeb a hoci iâ sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw a thri chyfarfod rasio ceffylau.

Bydd ail gam y cyllid yn cael ei ystyried ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd eraill a gynhelir rhwng 10 Ionawr a 21 Ionawr. Bydd y rhestr lawn o ddyfarniadau yn cael ei chyhoeddi ar ôl cwblhau'r Gronfa.