Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cael ei monitro a'i hadolygu'n barhaus i sicrhau ei bod yn cyflawni dros y rhai sy'n wynebu'r angen mwyaf. O 1 Gorffennaf 2025, mae rhai diwygiadau wedi'u gwneud i feini prawf cymhwysedd y Gronfa. 

Gan gydnabod bod pobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig yn aml yn gadael heb ddim ond y dillad ar eu cefn, gall person sy'n ffoi rhag cam-drin domestig ac sy'n gwneud cais am y tro cyntaf am Daliad Cymorth mewn Argyfwng nawr dderbyn taliad uwch o £111 pan fydd ganddynt gefnogaeth Partner Cymeradwy. Yn ogystal, nid yw cais am Daliad Cymorth i Unigolion ar gyfer person sy'n ffoi rhag cam-drin domestig wedi'i gyfyngu bellach i'r rhai sy'n derbyn budd-dal a ddyfernir ar sail prawf modd yn unig.

Mae'r meini prawf ar gyfer derbyn "eitemau eithriadol" wedi'u hehangu i gynnwys pobl sy'n derbyn Lwfans Gweini. Yr eitemau eithriadol y rhoddir cymorth grant ar eu cyfer yw lloriau a sychwyr aer a wresogir; rhaid gwneud cais am yr eitemau hyn drwy Bartner Cymeradwy. Nid oedd ein meini prawf blaenorol yn cynnwys pobl hŷn a ddechreuodd dderbyn Lwfans Gweini ar ôl oedran pensiwn. Y cymhwysedd wedi’i ddiweddaru i ymgeiswyr ar gyfer yr eitemau eithriadol yw eu bod yn derbyn naill ai Lwfans Gweini, cyfradd uwch elfen symudedd PIP, neu Lwfans Byw i'r Anabl; a bod ganddynt angen meddygol sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r eitem eithriadol y maent yn gofyn amdani. 

Bellach, bydd opsiwn i gael taliad BACS yn lle taleb ffôn symudol ar gyfer taliadau o dan £100. Rwy'n gobeithio y bydd y newid hwn o fudd i bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio rhag cael cymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol am y byddai'n anodd iddynt ddefnyddio taleb. Rwy'n gobeithio y bydd y newid hwn hefyd yn annog pobl sy'n gymwys i gael cymorth, ond nad oeddent am wneud cais oherwydd nad ydynt yn berchen ar ffôn symudol.

 Bydd y newidiadau hyn yn agor y Gronfa Cymorth Dewisol i garfan ehangach o bobl, gan ddarparu cymorth ychwanegol i bobl sy'n profi anawsterau ariannol.