Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Lesley Griffiths - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd y Gronfa Gofal Canolraddol, a oedd yn rhan allweddol o gytundeb Cyllideb 2014-15 Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n helpu pobl hŷn, yn enwedig henoed eiddil, i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain.

Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddwyd y byddem yn sefydlu Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i ddatblygu gwaith cydweithredol gan Wasanaethau Cymdeithasol, tai a thai, a chyda partneriaid Trydydd Sector a Sector Annibynnol. Bydd y Gronfa yn helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yn cael ei defnyddio i osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, derbyniadau amhriodol i ofal preswyl, yn ogystal ag osgoi oedi wrth ryddhau o’r ysbyty.

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau ar gymeradwyo cyllid ac yn rhoi gwybodaeth am rai o’r prosiectau a fydd yn cael eu datblygu ledled Cymru i gefnogi pobl hŷn.

Cafodd cynigion eu datblygu a’u cyflwyno gan bob un o’r chwe rhanbarth – Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, y Canolbarth a’r Gorllewin, y Gogledd, Bae’r Gorllewin a Gwent. Mae rhai o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu yn cynnwys:

  • Yn ardal Caerdydd a’r Fro, bydd ‘Tŷ Clyfar’ yn cael ei greu i godi ymwybyddiaeth a rhoi’r cyfle i bobl hŷn a’u teuluoedd weld a threialu cymorth y gellir ei darparu yn y cartref. Bydd timau llety arbenigol yn cael eu sefydlu i weithio gydag ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddatblygu ymatebion priodol o ran tai i bobl hŷn adeg eu derbyn a’u rhyddhau.
  • Yn ardal Cwm Taf, bydd gwasanaeth integredig @home yn canolbwyntio ar gadw annibyniaeth pobl hŷn ac osgoi derbyniadau i’r ysbyty. Bydd prosiect Butterfly yn cael ei ymestyn hefyd i wella ymarfer ynghylch pobl hŷn â dementia, cwmpasu mwy o gartrefi preswyl a nyrsio, yn ogystal ag ymestyn i ofal cartref.
  • Yn y Gogledd, bydd gwasanaeth cymorth iechyd a gofal cymdeithasol 24/7 yn cael ei sefydlu i gynnig gwasanaeth ymyrraeth argyfwng ac wedi’i gynllunio dros nos. Bydd yn cael ei ddarparu gan weithwyr cymorth generig sydd wedi cael hyfforddiant priodol er mwyn osgoi derbyniadau anamserol i’r ysbyty a gofal preswyl.
  • Yn ardal Gwent, byddwn yn darparu mwy o wasanaethau i bobl hŷn yn eu cartrefi ac mewn cartrefi gofal neu dai gwarchod. Bydd gwasanaeth newydd hefyd yn cael ei ddatblygu i gefnogi pobl â dementia a’r rheini sydd wedi dioddef strôc yn eu cartrefi eu hunain.
  • Yn ardal Bae’r Gorllewin, bydd gwasanaethau ailalluogi ychwanegol ar gael, gan gynnwys therapyddion galwedigaethol, i gefnogi annibyniaeth yn y cartref. Bydd mannau mynediad cyffredin hefyd yn cael eu sefydlu i gyfeirio pobl at wasanaethau neu ymyriadau priodol yn ôl yr angen.
  • Yn y Canolbarth a’r Gorllewin, bydd mwy o welyau gofal canolraddol hyblyg, fflatiau gofal canolraddol a fflatiau ‘camu ymlaen’ ar gyfer dementia ar gael. Hefyd bydd y Trydydd Sector yn helpu i ddatblygu gwasanaethau gyda’r hwyr i bobl wrth iddynt ddychwelyd o’r ysbyty.

Detholiad bach yw’r uchod o’r prosiectau a fydd yn cael eu datblygu eleni i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau integredig i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn well.

Mae’r Gronfa hon yn gyfle gwirioneddol i sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cydweithredu ar lefel strategol a gweithredol. Gyda’r cyllid sylweddol sydd ar gael, mae cyfle i ranbarthau wneud gwahaniaeth go iawn i’r gwasanaethau, y gofal a’r cymorth sy’n cael ei ddarparu i bobl hŷn ledled Cymru