Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar waith fy Ngrŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân. Cadeirydd y Grŵp yw Des Tidbury, Prif Gynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru, a'r aelodau craidd yw:

  • Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • David Wilton, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru
  • Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Douglas Haig, Is-gadeirydd Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cymru.

Mae'r Grŵp bellach wedi cyfarfod ddwywaith, ac am y tro bydd yn parhau i gyfarfod yn wythnosol wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac i ragor o ganlyniadau profion ddod i law. Bydd yn cadw mewn cysylltiad agos â Phanel Arbenigol Llywodraeth y DU, ac wrth wneud argymhellion i mi bydd yn rhoi sylw dyledus i gasgliadau'r Panel hwnnw.

Rwyf wedi nodi'r cylch gorchwyl y cytunwyd arno ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân, ac rwy'n ysgrifennu atoch i roi gwybod amdano (gweler isod).

Gan weithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr cyfatebol yn Llywodraeth y DU, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch a lles tenantiaid yng Nghymru yn parhau'n brif flaenoriaeth, ac rwy'n disgwyl i waith y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân chwarae rôl sylweddol yn yr ymdrechion i gyflawni'r nod hwn.

Y Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno:

Diben y Grŵp

Bydd y Grŵp yn canolbwyntio i ddechrau ar ddiogelwch adeiladau uchel. Bydd y Grŵp hefyd yn ystyried diogelwch pob  adeilad uchel amhenodol ei ddeiliadaeth, ar sail risg, gan ganolbwyntio ar y perygl i bobl wrth iddynt gysgu. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar fathau eraill o gartrefi, ystad y GIG, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, a'r ystad addysg uwch.

Bydd y Grŵp yn nodi ac yn ystyried camau gweithredu i'w cymryd o ganlyniad i'r ymchwiliadau a gynhelir ar unwaith i drychineb Grenfell Tower. Bydd yn rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant er mwyn helpu i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel yn cael yr wybodaeth a'r sicrwydd priodol a'u bod yn teimlo'n ddiogel. Bydd y Grŵp yn ystyried y goblygiadau mwy tymor hir wrth i'r ymchwiliad cyhoeddus (ac unrhyw ymchwiliadau dilynol) i drychineb Grenfell Tower ddod i'w casgliadau.

Amserlen

Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân ar waith am gyfnod cychwynnol o dri mis o 6 Gorffennaf, ac wedi hynny bydd yn cael ei adolygu.

Y Prif Faterion

  • Dysgu'r gwersi uniongyrchol wrth iddynt ddod i'r amlwg yn sgil digwyddiad Grenfell Tower, ac ystyried sut y dylent gael eu rhoi ar waith yng Nghymru, a'r goblygiadau sy'n codi ar unwaith i breswylwyr a landlordiaid adeiladau uchel. Gallai hynny gynnwys gwneud argymhellion ar roi cyngor a gwybodaeth briodol ac amserol i denantiaid, perchnogion, a rheolwyr adeiladau.
  • Adolygu canlyniadau penderfyniadau a wneir gan Grŵp Arbenigol y DU o ran cynnal profion ar ddeunyddiau a'u goblygiadau ar gyfer Cymru.
  • Ystyried y trefniadau a'r canllawiau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer adeiladau preswyl uchel sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwneud argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfer adolygu a/neu gymryd camau pellach.
  • Ar sail risg, ystyried goblygiadau diogelwch tân ar draws eiddo preswyl ac adeiladau cyhoeddus yn ehangach.
  • Diweddariad ar brofion graddfa eang y Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BRE)

    Erbyn hyn, mae’n bosibl y bydd yr Aelodau wedi gweld adroddiadau yn y cyfryngau am ganlyniadau’r cyntaf o chwech o brofion graddfa eang a gynhaliwyd gan y BRE ar wahanol fathau o Ddeunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM). Cynhaliwyd y prawf, ddydd Sul 23 Gorffennaf, gan drefnu bod y cyfuniad mwyaf llosgadwy o ACM a deunydd ynysu ffôm plastig yn cael ei brofi mewn tân difrifol. Fel y gellid disgwyl, fe fethodd y prawf. Hoffwn bwysleisio bod Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’i phartneriaid, wedi gwneud llawer iawn o waith i nodi’r tyrau uchel o fflatiau sydd yng Nghymru ac i ddarganfod, yn arbennig, a oes gorchudd ACM ar unrhyw un o’r adeiladau hynny.

    Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) wedi cyhoeddi cyngor ymarferol i landlordiaid i’w galluogi i wneud eu heiddo yn ddiogel, a byddant yn cysylltu â landlordiaid y gwelwyd bod ganddynt y math o orchudd a gafodd ei brofi dros y Sul. Nid ydym yn ymwybodol bod y DCLG yn bwriadu cysylltu ag unrhyw landlordiaid yng Nghymru o ganlyniad i’r gyfres gyntaf hon o ganlyniadau profion graddfa eang.

    Rwy’n deall y bydd rhagor o ganlyniadau profion ar gael yr wythnos nesaf. Bydd fy Ngrŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yn gweithio ar y cyd â’r Panel Arbenigol wrth inni ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd er mwyn ei roi ar waith yng Nghymru.

    Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.