Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, dyma roi gwybod fy mod wedi mynychu cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo, a gynhaliwyd yn rhithwir ar 1 Chwefror, gan ddod ag aelodau o’r pedair llywodraeth at ei gilydd.

Mynychwyd y cyfarfod gan yr Ysgrifennydd Cartref, y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman CB AS, fel y Cadeirydd, a Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban, Neil Gray ASA. Yn absenoldeb Gweinidogion yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon, roedd Dr Jayne Brady, Pennaeth Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, hefyd yn bresennol.

Yn ystod y cyfarfod, ailbwysleisiais ffocws Llywodraeth Cymru ar atal troseddau gan groesawu’r cyfle y mae’r Grŵp Rhyngweinidogol hwn yn ei gynnig o ran rhannu arferion gorau. Amlinellais fy ngwaith gyda’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, a’m rôl fel Cydgadeirydd, gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, ar gyfer ein Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae gan y bwrdd hwn gylch gwaith eang gan gynnwys trais yn y cartref, y gweithle ac mewn mannau cyhoeddus. Ailadroddais ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyllido swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ymhellach, ledled Cymru.

Nodais yr angen i swyddogion Llywodraeth Cymru gael gwybod yn gynnar gan Lywodraeth y DU am ddatblygiadau i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau, a phwysleisiais yr angen am drafodaethau brys a pharhaol ynghylch llwybrau mudo diogel a chyfreithiol i’r DU. Awgrymais y dylai llwybrau mudo diogel a chyfreithiol fod yn eitem bwysig ar yr agenda yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol.

Mynegais fy niddordeb yng Nghynllun Peilot Fisa Gwledig yr Alban.

Bu trafodaeth ynghylch Gwasgaru Ceiswyr Lloches. Tynnais sylw at y pwysau a roddwyd ar Awdurdodau Lleol Cymru a’r effaith negyddol roedd y gostyngiad yn y tariff ar gyfer y Cynllun Adsefydlu Pobl Wcráin wedi’i chael ar gydlyniant cymunedol. Mynegais ein siom ym mholisi Llywodraeth y DU sy’n atal ceiswyr lloches rhag cael swyddi. O ystyried y prinder gweithwyr parhaus mae hyn yn niweidiol i’r economi. Esboniais hefyd fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth ar waith i ddarparu llety trosiannol ar gyfer y rhai hynny sydd ag anghenion tai yng Nghymru, ac y byddai’n fuddiol os gellid cynnal trafodaethau cyn i Lywodraeth y DU gaffael gwestai yng Nghymru ar gyfer llety brys.

Croesawais y drafodaeth ar rai agweddau ar Ddiogelwch Cartref.

Mae cyd-hysbysiad byr wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn:

Interministerial Group for Safety, Security and Migration Communiqué: 1 February 2023 - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn Unig)