Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf gadarnhau wrth Aelodau’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ar 8 Mawrth.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir ac fe’i gadeiriwyd gan George Adam, Aelod o Senedd yr Alban a Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Fusnes Seneddol. Roedd Kemi Badenoch, Aelod o Senedd y DU a’r Gweinidog dros Gymunedau Ffyniant Bro, a’r Gwir Anrhydeddus Conor Burns, Aelod o Senedd y DU a’r Gweinidog Gwladol dros Ogledd Iwerddon hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i drafod Bil Etholiadau y DU a materion cymhwysedd a drafodwyd yn ddiweddar yn ein Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Yn ogystal, trafodwyd y paratoadau ar gyfer yr etholiadau sydd ar y gweill ym mis Mai, gan gynnwys ein cynlluniau peilot ynglŷn â phleidleisio hyblyg.

Cyhoeddwyd Datganiad ar y cyd ynghylch y cyfarfod ar 21 Ebrill (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Rydym yn parhau i gydweithio a bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter gyda threfniadau cadeirio sy’n cylchdroi. Byddaf yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.