Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i Aelodau’r Senedd imi gynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2025.

Cyfarfod rhithwir oedd hwn a gafodd ei gynnal gan Lywodraeth yr Alban. Yn bresennol roedd Graeme Dey ASA, y Gweinidog dros Fusnes Seneddol, Llywodraeth yr Alban (Cadeirydd, yn bresennol wyneb yn wyneb), Samantha Dixon AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (yn bresennol wyneb yn wyneb) a Matthew Patrick AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Swyddfa Gogledd Iwerddon (ar-lein). 

Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Fil drafft Etholiadau arfaethedig Llywodraeth y DU, a fydd yn cynnwys meysydd y byddai angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer. Clywais hefyd am baratoadau ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai 2026 a rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau a pharatoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau i’r Senedd ym mis Mai 2026. Cynhaliwyd hefyd drafodaethau defnyddiol ar ymgysylltu â democratiaeth a materion o ran diogelwch etholiadau a diogelwch ymgeiswyr. 

Cafodd cyd-hysbysiad ynglŷn â’r cyfarfod hwn (dolen allanol, Saesneg yn unig) ei gyhoeddi ar Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2025. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd a bwriedir cynnal cyfarfodydd bob chwarter. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.