Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 9 Ionawr.

Dyma’r fforwm ar gyfer hwyluso trafodaethau ynghylch materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Y rhai eraill yn bresennol oedd:

  • Y Gweinidog Hands – Y Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog dros Bolisi Masnach)
  • Y Gweinidog McKee – Y Gweinidog dros Fusnes, Masnach, Twristiaeth a Menter
  • Y Gweinidog Baker – Y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon
  • Yr Arglwydd Offord - Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Swyddfa’r Alban
  • Y Gweinidog Davies - Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Swyddfa Cymru

Trafodwyd y prosesau sydd ar waith i rannu gwybodaeth yn ystod trafodaethau am gytundebau masnach a chafwyd diweddariadau ynghylch trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gan gynnwys Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel, India a Chyngor Cydweithredol y Gwlff. Bydd datganiad ar y cyd ynglŷn â’r cyfarfod yn cael ei gyhoeddi maes o law.