Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf roi gwybod i’r Aelodau o’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru ar 9 Mehefin.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal o bell a’i gadeirio gan Chloe Smith Aelod Seneddol, Gweinidog y Cyfansoddiad a Datganoli yn Llywodraeth y DU. Roedd Robin Walker Aelod Seneddol, y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU a George Adam Aelod o Senedd yr Alban, y Gweinidog dros Fusnes Seneddol yn Llywodraeth yr Alban hefyd yn bresennol.

Roedd y cyfarfod rhagarweiniol hwn yn gyfle i ystyried etholiadau Mai 2021 ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Dywedais fod yr etholiadau, ar y cyfan, wedi mynd rhagddynt yn dda iawn o dan amgylchiadau heriol dros ben a bod pawb wedi cydweithio’n dda.

Roedd cyfle inni hefyd glywed gan Lywodraeth y DU ynglŷn â’i deddfwriaeth sydd ar ddod ac a nodwyd yn Araith y Frenhines, sef y Bil Etholiadau a Bil Diddymu a Galw Senedd y DU.

Cyhoeddwyd Cyd-hysbysiad ar ôl y cyfarfod sydd ar gael yn: Interministerial Group for Elections and Registration Communiqué: 9 June 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)

Byddwn yn parhau i gydweithio â’n gilydd a’r bwriad yw cynnal cyfarfodydd bob chwarter gyda threfniadau cadeirio cylchredol. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.