Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i'r Aelodau imi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Grŵp Masnach Rhyngweinidogol ar 29 Tachwedd.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd:

  • Y Gweinidog Hands – Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, yr Adran Fusnes a Masnach, Llywodraeth y DU (MH)
  • Y Gweinidog Lochhead – Gweinidog Busnesau Bach, Masnach ac Arloesi, Llywodraeth yr Alban
  • Y Gweinidog Barker – Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon
  • Y Gweinidog Jones  – Gweinidog Gwladol Cymru

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Masnach yw’r prif fforwm ar gyfer trafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfarfod, buom yn trafod y paratoadau ar gyfer cynhadledd gweinidogol nesaf Sefydliad Masnach y Byd (MC13), yn ogystal â'r ymwneud rhwng y llywodraethau datganoledig a llywodraeth y DU yng nghyswllt y trafodaethau am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Unol Daleithiau.