Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngeinidogol ar Waith a Phensiynau ar 6 Tachwedd.

Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sy'n cynnwys manylion llawn am bawb arall a oedd yn bresennol.  Roedd yr agenda yn cynnwys: Cyflwyniad; Cylch Gorchwyl y ‌Grŵp Rhyngweinidogol; Symud i Gredyd Cynhwysol; Ymgyrch Manteisio ar Gredyd Pensiwn; ac ymgyrch Llywodraeth Cymru, Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi.

Fel y cyfeirir ato yn y datganiad ar y cyd, cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl yn ffurfiol. Roeddwn yn croesawu sefydlu'r Grŵp Rhyngweinidogol, a fydd yn ein galluogi i drafod meysydd sydd o ddiddordeb i bob aelod o'r grŵp – yn enwedig cefnogaeth i'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Amlygais flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi drwy gefnogi pobl i gael cymaint o incwm ag sy'n ddyledus i'w haelwyd. Pwysleisiais bwysigrwydd sicrhau bod y rhai sy'n hawlio Credyd Treth yng Nghymru, sydd bellach yn rhan o'r broses Symud i Gredyd Cynhwysol, yn cael cefnogaeth drwy gydol y cyfnod pontio. Soniais am fy fy mhryderon na ddylai pobl golli unrhyw arian y mae ganddynt hawl iddo oherwydd y broses bontio hon.

O ran y nifer sy'n manteisio ar Gredyd Pensiwn, tynnais sylw at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i'w gynyddu. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch arloesol, Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi i, sy'n gweld canlyniadau gwych wrth i fwy a mwy fanteisio ar fudd-daliadau ledled Cymru. Y llynedd, helpodd yr ymgyrch dros 7,500 o bobl i hawlio gwerth dros £3.6 miliwn o incwm ychwanegol.  Rhannais ein bod ar hyn o bryd yn paratoi i lansio ein pedwaredd ymgyrch a fydd yn cynnwys deunyddiau hyrwyddo i dargedu pobl hŷn yn benodol ar Gredyd Pensiwn.

Mynegais fy nghefnogaeth i'r defnydd o gynlluniau peilot, fel yr un y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei redeg ym Mhowys, lle cymerir camau i annog pobl hŷn a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn i gyflwyno hawliad. Fodd bynnag, a thua 80,000 o bensiynwyr ledled Cymru sydd â hawl i Gredyd Pensiwn ond heb fod yn ei hawlio ar hyn o bryd, mae llawer o waith i'w wneud o hyd.

Er bod ein prosiectau yng Nghymru yn cyflawni canlyniadau gwych, fe wnes i unwaith eto godi'r awgrym y byddai ymgyrch fudd-daliadau strategol ledled y Deyrnas Unedig yn ddefnyddiol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyn ymhellach. Dylai ymgyrch o'r fath ganolbwyntio, nid dim ond ar godi ymwybyddiaeth, ond hefyd ar gefnogi pobl i gael gafael ar wasanaethau cyngor a chymorth, yn ogystal â hwyluso trefniadau rhannu data.

Yn olaf, codais fy mhryderon mai dim ond rhan o'r ateb yw hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth wrth geisio cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau, ac y bydd angen cymorth ar rai pobl i wneud yr hawliad ei hun. Er bod Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol i wneud darpariaeth o'r fath yng Nghymru. Galwais ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried ariannu gwasanaeth Cymorth i Hawlio ar gyfer Credyd Pensiwn, fel eu gwasanaeth sy'n helpu pobl i hawlio Credyd Cynhwysol.

Bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau yn cael ei gadeirio gen i, fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddo gael ei gynnal yng ngwanwyn 2024.