Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant ar 6 Mai, y bûm yn ei gadeirio. Hwn oedd ail gyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol sydd wedi ei ailsefydlu.
Mynychwyd y cyfarfod gan Sarah Jones AS, Gweinidog Diwydiant, Llywodraeth y DU, Caoimhe Archibald, Gweinidog yr Economi, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac uwch swyddog o Lywodraeth yr Alban. Caiff hysbysiad am y cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU .
Canolbwyntiodd trafodaethau ar y Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar a Thwf Economaidd Seiliedig ar Le a rhoddwyd diweddariadau ar gynlluniau economaidd ar draws y pedair gwlad.
Tynnais sylw at bwysigrwydd cydweithio parhaus o amgylch y Strategaeth Ddiwydiannol a chafwyd trafodaeth ar dwf economaidd seiliedig ar le a sut y gellir cefnogi hyn ledled y DU.
Yr Alban fydd yn cadeirio'r Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant nesaf yn unol â threfniadau cylchdroi'r cadeiryddion.