Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn y Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant ar 3 Chwefror. Dyma oedd trydydd cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ers iddo gael ei ailsefydlu.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Caoimhe Archibald ACD, Gweinidog yr Economi, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod bu Richard Lochhead AS, y Gweinidog dros Fusnes a Chyflogaeth, Llywodraeth yr Alban, Chris McDonald AS, y Gweinidog Diwydiant a Blair McDougall AS, Gweinidog Busnesau Bach a Thrawsnewid Economaidd, Llywodraeth y DU. Bydd hysbysiad ar y cyd ynglŷn â'r cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi maes o law ar wefan Llywodraeth y DU.
Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar ddatblygiadau economaidd diweddar ledled y DU, a phwysigrwydd partneriaeth a chydweithredu parhaus wrth gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol y DU a threfniadau i sicrhau bod y gwaith yn parhau yn ystod cyfnod yr etholiad.
Llywodraeth y DU fydd yn cadeirio'r Grŵp Rhyngweinidogol Busnes a Diwydiant nesaf yn unol â threfniadau cylchdroi'r cadeiryddion.
