Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r Gwarant i Bobl Ifanc yn ganolog i'n hymdrechion i helpu pobl ifanc i gael y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, boed hynny drwy gyflogaeth, addysg neu ddechrau busnes.

Heddiw, byddaf yn lansio’r Gwarant i Bobl Ifanc yng Nghymru ac yfory, byddaf yn gwneud datganiad mwy llawn i'r Aelodau yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc ar gyfer dyfodol mwy disglair.