Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn falch o gyhoeddi Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun gweithredu 2017-21. Diben y cynllun hwn yw gosod ein cyfeiriad ar gyfer datblygu addysg orfodol cyfrwng Cymraeg ac Iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf, yn unol â gweledigaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr (2017) ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl,
Cynllun gweithredu 2017–21 (2017).

Yn syml, dylai pob un o'n pobl ifanc, o bob cefndir, ddod allan o'r system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio'r iaith ym mhob cyd-destun. Mae'n fater o degwch, a rhaid i ni fel Gweinidogion a Llywodraeth Cymru osod y cyfeiriad a darparu arweinyddiaeth. Mae cynllun gweithredu’r Gymraeg mewn addysg yn gosod y cyfeiriad a chamau gweithredu penodol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth hon, gan bwysleisio’r angen i wella’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg.

Mae'n gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru, ac mae gennym gyfle i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i'n diwygiadau uchelgeisiol a hanfodol.

O baratoi'r cwricwlwm newydd i ddatblygiad proffesiynol y gweithlu addysg a diwygio'r modd yr ydym yn cefnogi ein dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, bydd sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried wrth wraidd y datblygiadau hyn yn flaenoriaeth allweddol.

Ym mis Medi eleni, lansiwyd Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol, sy'n gosod ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu mewn cyd-destun hirdymor. Mae sicrhau bod pob dysgwr yn gallu defnyddio'r Gymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol, a bod gennym gyflenwad digonol o athrawon i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu cynnwys fel ymrwymiadau. Rhaid i ni gydnabod bod hon yn agenda hirdymor sydd angen cynllunio gofalus a sawl cam gweithredu er mwyn adeiladu darpariaeth gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn darparu'r arweinyddiaeth gyffredinol ar gyfer datblygiadau, ond bydd hefyd angen i bob un o'n partneriaid gydweithio â ni wrth i ni symud ymlaen. Felly, byddwn yn parhau i weithio gydag arbenigwyr o'r sector, ymgynghori â'n rhanddeiliaid allweddol, a monitro a gwerthuso'n barhaus gan ystyried arfer gorau rhyngwladol wrth i ni symud ymlaen i weithredu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

http://gov.wales/topics/educationandskills/allsectorpolicies/welshmededuca/?skip=1&lang=cy