Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar y 4ydd o Orffennaf treuliais ddiwrnod buddiol iawn yn y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth yn trafod dyfodol y Gymraeg.

Rwy’n ddiolchgar i’r 160 o gynadleddwyr a ddaeth i Aberystwyth, ac hefyd i’r 200 o bobl fu’n gwylio a chyfrannu i’r drafodaeth yn fyw ar y we. Derbyniwyd dros fil o negeseuon drwy gydol y dydd.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r bobl a fynychodd dros ugain o grwpiau ffocws lleol ar draws Cymru yn ystod y cyfnod cyn y gynhadledd – ac i’r dros 2,300 o bobl sydd bellach wedi cymryd rhan yn ein harolwg ar-lein.

Mae’r ymateb i’r sgwrs genedlaethol, a’r Gynhadledd ei hun, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’n dangos ymroddiad a balchder pobl tuag at yr iaith; ac yn dangos bod yna awydd i gydweithio er lles y Gymraeg.

Rydym wedi clywed gan bobl o bob oedran a chefndiroedd amrywiol, gan gynnwys rhai sydd ddim yn siarad yr iaith eu hunain. Roeddwn yn arbennig o falch o’r bobl ifanc a gymerodd rhan yn y Gynhadledd ac yn gwerthfawrogi eu bod wedi lleisio eu barn yn onest am yr iaith. Nhw yw dyfodol yr iaith ac mae’n bwysig eu bod yn arwain y ffordd i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.

Dros yr haf byddaf yn cnoi cil ar yr hyn a glywais yn y Gynhadledd a’r farn a leisiwyd yn ystod y sgwrs genedlaethol wrth ystyried beth fydd ymateb y Llywodraeth i’r cwestiynau a godwyd gan ganlyniadau Cyfrifiad 2011. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weld casgliadau’r amrywiol adolygiadau polisi fydd yn adrodd erbyn yr hydref ar gymunedau Cymraeg, yr iaith ar economi, Cymraeg i oedolion (a gyhoeddwyd heddiw), Cymraeg ail iaith a’r Eisteddfod Genedlaethol.
 
Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn yr hydref ar ymateb y Llywodraeth i’r sgwrs genedlaethol yr ydym wedi ei chynnal dros yr wythnosau diwethaf.