Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y nodais cyn hyn wrth Aelodau’r Cynulliad fy mwriad yw cyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol a fydd yn sicrhau na fydd awdurdodau lleol unigol yn darparu gwasanaethau gwella ysgolion mwyach. Yn lle hynny bydd awdurdodau lleol yn darparu’r gwasanaethau hynny drwy gonsortia a fydd yn cael eu sefydlu a’u cynnal ganddynt hwy. Bydd hyn yn sicrhau bod arbenigedd ac adnoddau yn cael eu dwyn ynghyd ac arferion gorau yn cael eu rhannu. Bydd hefyd yn sicrhau y bydd gwasanaethau gwella ysgolion yn cael eu darparu yn gyson ledled Cymru gan osgoi rhywfaint o’r dyblygu sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i fabwysiadu’r model cenedlaethol a bydd hynny’n cael ei roi ar waith yn raddol o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â ‘diogelu’ y lefel gyfredol o wariant i gefnogi gwasanaethau rhanbarthol ar gyfer ysgolion. Cefais ymrwymiad ganddynt y byddant yn cytuno i gael tynnu cyfran o’r arian o’r Grant Cynnal Refeniw o 2015 ymlaen pe na baent yn llwyddo i gyflawni eu hymrwymiad.

Fel y dywedais cyn hyn wrth yr aelodau, er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn penodais grŵp bychan o arbenigwyr allanol ar lefel uchel. Mae’r grŵp hwn wedi gweithio fel cyfaill beirniadol a seinfwrdd wrth i fanylion y model cenedlaethol gael eu datblygu. Ychwanegwyd at waith y grŵp hwn  drwy dynnu ar arbenigedd awdurdodau lleol a’u consortia er mwyn dwyn ynghyd weithgor â chynrychiolaeth ehangach a fu’n gyfrifol am fanylion y gwaith o ddatblygu’r Model Cenedlaethol.

Mae’n dda gennyf ddweud wrth yr aelodau bod y gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau a fy mod wedi derbyn y Model Cenedlaethol newydd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr cynghorau hefyd wedi derbyn yr egwyddorion a’r strwythurau a amlinellwyd yn y model ac maent wedi dweud wrthyf eu bod yn ymrwymedig, ar y cyd â’i gilydd, i’r model.

Mae’r Model Cenedlaethol yn cynnwys yr elfennau canlynol mewn pum adran allweddol:

  • Adran 1: cenhadaeth, gwerthoedd ac egwyddorion gwella ysgolion yn effeithiol
  • Adran 2 : cwmpas y consortia rhanbarthol
  • Adran 3: cyflawni swyddogaethau’r consortia rhanbarthol perthnasol a’r awdurdodau lleol
  • Adran 4: llywodraethiant ac atebolrwydd
  • Adran 5: trefniadaeth y consortia a’u gweithrediad

Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud yn ystod y misoedd a ganlyn i sicrhau y bydd y Model Cenedlaethol yn weithredol o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Rydw i’n disgwyl gweld y consortia’n gweithio’n agos gyda’r proffesiwn a’r undebau wrth fynd â’r gwaith rhagddo.

Bydd copi o’r Model Cenedlaethol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru cyn hir a gellir ei cafod ar lein.