Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau'r dreth gyngor ac ardrethi i Gymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae'r VOA yn penderfynu a yw eiddo yn cael ei ystyried yn eiddo domestig ac yn atebol am y dreth gyngor, neu'n eiddo annomestig ac yn atebol am ardrethi annomestig. Mae'r broses ar gyfer rhestru eiddo yn cael ei hategu gan ddeddfwriaeth a chanllawiau helaeth. Mae VOA yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. 

Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys lojiau, carafannau, neu gabanau gwyliau.

Mae dosbarthiad eiddo at ddibenion trethi lleol yn cael ei lywodraethu gan Adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Y man cychwyn ar gyfer dosbarthu eiddo yw a yw'r eiddo yn eiddo domestig. Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo a ddefnyddir fel llety preswyl yn cael ei ddiffinio fel eiddo domestig ac yn dod o fewn system y dreth gyngor. Mae eiddo arall (gan gynnwys eiddo a ddefnyddir at ddibenion busnes, dibenion cyhoeddus, seilwaith ac nid-er-elw) yn cael ei ystyried yn annomestig ac mae'n dod o fewn y system ardrethu annomestig. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn nodi rhai esemptiadau rhag trethi lleol.  

Mae'r diffiniadau yn dibynnu ar y defnydd o'r eiddo, nid nodweddion ffisegol yr eiddo na'r diben y cafodd ei adeiladu'n wreiddiol ar ei gyfer. 

Mae eiddo yn cael ei ddosbarthu fel eiddo domestig os yw'n cael ei ddefnyddio fel llety preswyl. Yn ogystal â thai a fflatiau traddodiadol, mae mathau eraill o eiddo sy'n cael eu defnyddio fel llety preswyl - er enghraifft, cabanau gwyliau, carafannau, cychod preswyl, cartrefi mewn parciau a chabanau  - yn ddarostyngedig i'r system dreth gyngor.

Pan fo caban gwyliau yn cael ei ddosbarthu gan y VOA fel eiddo domestig, bydd yn atebol am y dreth gyngor oni bai ei bod yn gymwys i gael esemptiad penodol.

Mae trefniadau penodol yn gymwys i eiddo sy'n darparu llety preswyl sy'n cael ei osod fel llety hunanddarpar. Ni chaiff eiddo a ddefnyddir i ddarparu llety preswyl yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol ond os yw'n cael ei osod yn fasnachol am gyfnodau byr fel llety hunanddarpar ac yn bodloni'r meini prawf a nodir mewn deddfwriaeth (gan gynnwys bod ar gael i'w osod am o leiaf 252 o ddiwrnodau ac yn cael ei osod mewn gwirionedd am 182 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis).

Rhestrir cabanau gwyliau (ac eiddo arall) sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ardrethi annomestig tra bo'r rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf yn cael eu rhestru ar gyfer y dreth gyngor.

Os nad eiddo domestig yw prif breswylfa'r perchennog, gallai fod yn atebol hefyd am bremiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi, os yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu gwneud cais am un. Mae nifer o eithriadau statudol i bremiymau'r dreth gyngor: Mae'r rhain yn cynnwys lleiniau carafannau ac anheddau wedi'u meddiannu sy'n ddarostyngedig i amodau cynllunio penodol. Ni ellir codi premiwm ar anheddau sy'n gymwys i gael eithriad ond gellir codi'r dreth gyngor arnynt a hynny ar y gyfradd safonol o hyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i gynyddu'r uchafswm premiwm y gall yr awdurdodau lleol ei godi i 300% o 1 Ebrill 2023. Mater i awdurdodau unigol fydd penderfynu a ddylid cymhwyso premiwm ac ar ba lefel i'w gymhwyso. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, mae angen i bob awdurdod asesu'r effeithiau posibl ar unigolion, cymunedau a'r economi leol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i’r awdurdodau lleol ar weithredu premiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. Mae hyn yn annog yr awdurdodau lleol i ymgynghori'n gryf cyn gwneud penderfyniad sy'n cynyddu premiwm i lefel uwch na 100% o leiaf chwe mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynnydd arfaethedig yn y premiwm yn ymwneud â hi. Mae'r pwerau i godi premiwm ar dai gwag ac ail gartrefi tymor hir yn ddewisol ac yn caniatáu i'r awdurdodau lleol deilwra eu defnydd o'r pwerau i fynd i'r afael ag anghenion lleol ac yn adlewyrchu gwahanol batrymau argaeledd ac anghenion tai ledled Cymru. 

Mae'r canllawiau hefyd yn esbonio ystod o amgylchiadau amrywiol lle na all awdurdod godi premiwm ar annedd sy'n dod o fewn eithriad. Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i'r eithriadau cyn codi premiwm.

Mae eithriad rhag y premiwm ar gyfer cartrefi tymhorol neu lety gwyliau lle y gwaherddir y rhain rhag cael eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn neu'n barhaol. Mae'r eithriad hwn yn gymwys yn aml i gartrefi gwyliau a chabanau gwyliau pwrpasol sy'n ddarostyngedig i amodau cynllunio sy'n cyfyngu ar feddiannaeth drwy gydol y flwyddyn. O 1 Ebrill 2023, mae'r eithriad Dosbarth 6 wedi'i ymestyn i gynnwys pob annedd a gyfyngir gan amod cynllunio sy'n eu hatal rhag cael eu meddiannu am gyfnod parhaus o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn; sy'n pennu eu defnydd fel llety gwyliau unig; sy'n eu hatal rhag cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa unigolyn.

Wrth arfer ei bwerau i gymhwyso premiwm, gall awdurdod hefyd benderfynu ar fathau neu ddosbarthiadau penodol o eiddo o fewn y categorïau o eiddo gwag hirdymor neu ail gartrefi y bydd neu na fydd yn cymhwyso premiwm iddynt. Mae'r canllawiau'n cynnwys enghreifftiau dangosol o ble y gallai awdurdod lleol ystyried defnyddio'r disgresiwn hwn: Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys lojiau, carafannau, neu gabanau gwyliau.

Mae gan yr awdurdodau lleol bwerau dewisol hefyd i leihau biliau'r dreth gyngor a gallant ddefnyddio'r pwerau hyn i leihau  unrhyw swm ar fil. Mater i bob awdurdod lleol yw a yw'n defnyddio'r pwerau hyn ac mae penderfyniadau'n cael eu gwneud fesul achos. Er tegwch a thryloywder, dylai fod gan yr awdurdodau lleol bolisi clir ynghylch a fydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio, a sut.