Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Datganiad hwn yn rhoi gwybod y diweddaraf i Aelodau am yr amgylchiadau yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell.

Mae'r gyfres o brofion system gyfan a gynhaliwyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) wedi dod i ben erbyn hyn. Cafodd canlyniadau'r pumed, y chweched a'r seithfed prawf eu hadrodd ar 14, 25 a 21 Awst, yn y drefn honno.

Roedd y pumed a'r chweched prawf, sef Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) â llenwad hylosgedd cyfyngedig (Categori 1), ag inswleiddiad ewyn a gwlân carreg, yn y drefn honno, wedi pasio'r profion. Roedd y cyfuniadau hyn o ddeunyddiau wedi atal tân yn ddigonol rhag lledu yn unol â'r safon sy'n ofynnol yn y canllawiau cyfredol ar Reoliadau Adeiladu.

Cafodd y seithfed prawf ei gynnal ar ACM â llenwad polyethylen sy’n arafu cyflymder tân (Categori 2) ag inswleiddiad ewyn ffenolig. Methodd y system wal hon y prawf. Ystyr hyn yw na wnaeth y deunydd atal tân yn ddigonol rhag lledu yn unol â'r safon sy'n ofynnol yn y canllawiau cyfredol ar Reoliadau Adeiladu.

Hyd yma, ni chanfuwyd unrhyw adeiladau uchel â chyfuniadau o ddeunyddiau ACM / inswleiddiad sy'n cyfateb i'r profion hyn yng Nghymru.

Rydym wedi cadarnhau nad oes gan unrhyw adeiladau uchel sy'n rhan o'r ystad gyhoeddus ym meysydd addysg ac iechyd, gan gynnwys prifysgolion, gladin ACM. Ein prif sylw bellach yw dod o hyd i berchenogion a/neu asiantwyr rheoli llety preswyl uchel yn y sector preifat, er mwyn cydweithio â nhw. Ein nod yw sicrhau ein bod yn dod o hyd i unrhyw adeiladau preswyl uchel ag ACM, fel bod samplau'n cael eu hanfon ar gyfer profion sgrinio i ddangos pa gategori o ACM sy'n bodoli.

Wrth gwrs, disgwylir i berchenogion adeiladau gymryd y camau priodol i sicrhau bod eu hadeiladau'n bodloni'r safonau gofynnol a bod eu preswylwyr yn ddiogel. Fodd bynnag, gallaf roi sicrwydd i'n cydweithwyr fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau rhagweithiol. Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Leol a phartneriaid eraill i sicrhau bod gan berchenogion adeiladau yr wybodaeth ddiweddaraf, a'u bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu preswylwyr yn ddiogel yn ogystal â chynnal unrhyw waith adfer sydd ei angen yn y tymor hir.

Yn olaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sy'n gyfrifol am Reoliadau Adeiladu yng Nghymru, wedi bod yn gohebu â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys yn briodol mewn materion sy'n ymwneud â'r adolygiad annibynnol y mae Llywodraeth y DU wedi'i chychwyn ar reoliadau adeiladu. Gofynnodd hefyd am gael sicrwydd y bydd buddiannau cyffredin yn cael eu rhannu'n effeithiol. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymateb drwy gynnig i Ysgrifennydd y Cabinet a Grŵp Cynghori Cymru ar Ddiogelwch Tân gael trafodaeth gychwynnol â chadeirydd yr adolygiad annibynnol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.