Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, Cymorth ar gyfer gofal lliniarol yn ystod y pandemig, a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2021, ymrwymais i ddarparu diweddariad. Dyma felly’r wybodaeth ddiweddaraf am y materion allweddol a godwyd yn ystod y ddadl ac ar gynnydd ehangach o ran gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Gwyddom y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sy'n wynebu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd - gan eu helpu i farw gydag urddas a chan hwyluso proses alaru iach i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y dylai unrhyw un y mae arno angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru gael mynediad at y gofal gorau posibl.

Mae hosbisau'n ganolog i'r dull gweithredu hwn ac rydym yn cydnabod eu cyfraniad enfawr at ofal diwedd oes a'r cymorth y maent yn ei ddarparu i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Gwyddom fod y pandemig wedi eu bwrw'n arbennig o galed gan fod eu gallu i godi arian wedi gostwng yn sylweddol oherwydd  gyfyngiadau Covid-19 megis y gwaharddiad ar gynulliadau torfol a chau siopau manwerthu. Dyna pam yr ydym wedi dyrannu £9.3m o gyllid brys i hosbisau dros y 12 mis diwethaf i ddiogelu eu gwasanaethau clinigol craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth.  

Mae'r pandemig wedi dangos, yn gliriach o bosibl nag unrhyw ddigwyddiad diweddar, raddfa a chymhlethdod profedigaeth a phwysigrwydd gofal da i'r rhai sy'n mynd trwyddi. Mae'r profiad hwn wedi ysgogi a dylanwadu ar lawer o fanylion y fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer gofal profedigaeth sy'n cynnwys egwyddorion craidd, safonau gofynnol ac ystod o gamau gweithredu i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol. Mae hefyd yn cydnabod y bydd effeithiau hirhoedlog yn sgil y pandemig ac yn cynnwys adran am ddysgu gwersi o Covid-19. Cyhoeddir y fframwaith at ddibenion ymgynghori ym mis Mawrth 2021 ac fe gaiff ei gefnogi gan gyllid ychwanegol o £1m o fis Ebrill 2021.

Yn ystod y degawd diwethaf, bu cynnydd digamsyniol o ran gofal diwedd oes, megis mynediad ar gyfer cleifion nad ydynt yn gleifion canser a gofal trosiannol, ond mae'r math o angen, sy'n cynyddu ac yn newid o hyd;  e.e. mae sut yr ydym yn mynd i'r afael â gofal dementia diwedd oes, cynnydd o ran defnyddio cynllunio gofal ymlaen llaw a chynllunio gofal yn y dyfodol, datblygiadau technolegol a disgwyliadau newidiol y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes ailystyried ei flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Roedd ymestyn y Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes presennol tan ddiwedd mis Mawrth 2022, ynghyd â'r £2m o gymorth ariannol, yn galluogi'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes i gynnal archwiliad i osod gweledigaeth y dyfodol ar gyfer gwasanaethau yn ystod y degawd nesaf.  

Bydd yr archwiliad yn sefydlu capasiti sylfaenol ar draws y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant ac yn cynnig datblygiadau i’r gwasanaethau a'r gweithlu i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. I gefnogi'r gwaith hwn, bydd yr Asesiad o Anghenion Gofal Lliniarol Pediatrig yn darparu data cadarn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Mae byrddau iechyd a hosbisau yn cefnogi'r gwaith hwn a fydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau. Mae'n debygol y bydd yr adolygiad ariannu yn cymryd tua thri mis i'w gwblhau ac y dylai fod yn barod i'w ystyried yn gynnar yng ngweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd angen i unrhyw olynydd i'r cynllun darparu gofal diwedd oes hefyd fanteisio ar y cyfleoedd a nodir yn 'Cymru Iachach', gan gynnwys y cysyniad o Ddatganiadau Ansawdd a ategir gan gynlluniau gweithredu'r GIG o fewn un o swyddogaethau Gweithrediaeth y GIG. Gwnaed rhywfaint o ymgysylltu rhagarweiniol â rhanddeiliaid ar y Datganiadau Ansawdd ar gyfer canser, cyflyrau'r galon a strôc a byddwn yn nodi mwy o fanylion yn ystod y misoedd nesaf.  

Nodwn yr adolygiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae'r system fudd-daliadau'n cefnogi pobl sydd â salwch terfynol megis y rhai sydd â chlefyd niwronau motor (MND) bellach wedi dod i ben. Er ein bod yn derbyn nad yw’r mater hwn wedi'i ddatganoli, byddwn, wrth gwrs, yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad.Yn y cyfamser, mae timau gofal lliniarol arbenigol yn parhau i ddarparu gofal a chymorth i gleifion MND a'u ffrindiau a'u teuluoedd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno hyrwyddwyr o gynlluniau peilot Nyrsio Ardal seiliedig ar Gymdogaeth mewn ardaloedd trefol, cymoedd ac ardaloedd gwledig yng Nghymru rhwng 2018 a 2020 i edrych ar ffyrdd o wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r rhain yn cynnwys cymysgedd darbodus o sgiliau sy'n cynnwys cymorth gweinyddol;  cyflwyno gweithwyr cymorth gofal iechyd band pedwar;  a thechnoleg amserlennu amser real ar gyfer mwy o hyblygrwydd, ymatebolrwydd a chynhyrchiant

Penodwyd Arweinydd Nyrsio Cenedlaethol i fwrw ymlaen â'r hyn a ddysgwyd o'r cynlluniau peilot. Gellir gweld y gwerthusiad gan Brifysgol De Cymru yn: https://wihsc.southwales.ac.uk/prime-usw/prime-usw-research-portfolio/evaluation-neighbourhood-district-nursing-pilots-wales/.

Yn olaf, cofiwn fod angen cymorth ar ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd.  Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod cynnig llesiant amlhaenog ar gael, gan gynnwys llinell gymorth gyfrinachol gan y Samariaid i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru, yn ogystal â nifer o apiau cymorth iechyd a lles am ddim fel Mind, Sleepio a Daylight a SilverCloud.  

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i wella ac ehangu gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) - model cyfrinachol, di-dâl, haenog o gymorth seicolegol ac iechyd meddwl sydd ar gael i bawb sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru gan gynnwys myfyrwyr.

Mae ystod o adnoddau cenedlaethol a lleol ar gael i staff a gellir eu cyrchu drwy restr chwarae ddefnyddiol ar dudalennau gwe AaGIC ynghyd â chyngor i helpu unigolion i nodi'r math a'r lefel briodol o gymorth iddynt hwy eu hunain, boed hynny'n ymyriad hunanarweiniad, dan arweiniad neu ymyriad un-i-un uniongyrchol. https://aagic.gig.cymru/covid-19/adnoddau-iechyd-a-lles/