Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym yn ei wneud wrth sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru a gwneud y mwyaf o'u gwerth i bobl Cymru.  

Mae'r tîm cyflawni dros dro yn gweithio ar sefydlu'r corff a datblygu prosiectau, cyn i'r corff gael ei lansio ym mis Ebrill 2024.

Rydym wedi penodi Llyr Roberts yn gadeirydd, yn dilyn cystadleuaeth agored. Mae Llyr wedi cael gyrfa ryngwladol lwyddiannus gyda Prysmian Group, cwmni gwneud ceblau mwyaf y byd, gan arwain at ei benodi yn Is-lywydd Uwch ar gyfer un o unedau busnes byd-eang y cwmni. Cyn hynny cafodd nifer o swyddi fel Prif Swyddog Gweithredol Rhanbarthol yn Nwyrain Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, yr Almaen a'r DU. Bydd ei brofiad helaeth o gymorth mawr i Drydan Gwyrdd Cymru.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llyr i gyflawni ein huchelgeisiau i Trydan Gwyrdd Cymru ddod â gwerth gwirioneddol i'n cymunedau dros y tymor hir.

Byddwn nawr yn recriwtio tri cyfarwyddwr anweithredol i ymuno â'r bwrdd annibynnol. Ynghyd â'r cadeirydd a'r prif swyddog gweithredol, byddant yn gyfrifol am bennu a chyflawni gweledigaeth glir ar gyfer y cwmni. Rydym am ddenu bwrdd amrywiol, sy'n cynrychioli cymdeithas fodern Cymru.

Bydd Trydan Gwyrdd Cymru wedi'i leoli yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ond bydd yn defnyddio'r model gweithio hybrid.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd ein cwmni sy'n eiddo i'r cyhoedd wrth inni edrych ymlaen at ei lansio yn 2024.