Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y gŵyr yr aelodau, daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Adroddiad Hill i ben ar 13 Medi ac rwyf eisoes wedi dangos fy mod yn awyddus i fynd ymlaen gyda nifer o’r opsiynau a gyflwynwyd.  


Er mwyn atgoffa’r aelodau nid yw adroddiad Hill wedi gwneud unrhyw argymhellion, ond mae wedi cynnig amryw o opsiynau posibl ar gyfer darparu gwasanaethau addysg.  Heddiw hoffwn roi’r newyddion diweddarf ichi ar y camau yr ydwyf yn eu cymryd i fynd ymlaen gydag opsiwn 5.2 a 5.3 yr adroddiad yn benodol, sy’n gysylltiedig â gwaith ein consortia addysg rhanbarthol.  


Fel y bu imi hysbysu Aelodau’r Cynulliad eisoes yn fy natganiad llafar ar 1 Hydref a’m datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref, rwyf am:


  • i awdurdodau lleol gadw eu cyfrifoldeb statudol dros addysg;  
  • sefydlu model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol;  


Er mwyn mynd ymlaen â’r gwaith hwn rwyf wedi penderfynu penodi grŵp bychan ar lefel uchel sy’n cynnwys arbenigwyr o’r tu allan.  Bydd y grŵp hwn yn gweithredu fel cyfaill beirniadol ac yn rhoi eu barn arbenigol wrth i’r model cenedlaethol gael ei ddatblygu.  Byddant yn helpu fy swyddogion a minnau i bennu y cyfeiriad ar lefel uchel ar gyfer y model cenedlaethol, a hefyd yn gweithio i roi eu barn ar fanylion y model wrth iddo gael ei ddatblygu.  Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd imi drwy fy swyddogion.  


Rwy’n falch o gyhoeddi aelodau’r grŵp:  


  • Robert Hill – awdur yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Addysg yng Nghymru
  • Yr Athro David Reynolds – sydd ag enw da rhyngwladol am ei waith ar effeithiolrwydd ysgolion a gwella ysgolion 
  • Gareth Williams – sydd ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd Adfer Merthyr Tudful ac yn Gyn-gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Swydd Gaerlŷr 
  • Joyce Redfearn – cyn Brif Weithredwr Cyngor Wigan a Chyngor Sir Fynwy

Rwy’n bwriadu ychwanegu at waith y grŵp hwn drwy dynnu ar awdurdodau lleol a chonsortia i lunio gweithgor mawr â chynrychiolaeth eang fydd yn mynd ymlaen â’r gwaith manwl o ddatblygu’r model cenedlaethol.  Bydd y gweithgor hwn yn tynnu unigolion o bob lefel o’r sysem bresennol gan gynnwys:  


  • Y Prif Weithredwyr arweiniol;
  • Cyfarwyddwyr Addysg arweiniol; a 
  • Swyddogion arweiniol allweddol o ranbarthau’r consortia 

Mae angen inni fynd ymlaen ar fyrder i ddatblygu’r model cenedlaethol.  Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith ac yn cael ei gwblhau cyn gynted ag y mae’n ymarferol.  Byddaf wrth gwrs yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i gydweithwyr ar y mateiron hyn wrth i’r datblygiadau fynd rhagddynt.