Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru ar 27 Mawrth 2012, hysbysais yr aelodau am fy nyheadau o ran rheoli ein pysgodfeydd yn ystod y Cynulliad hwn.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio ar y Strategaeth hon, ac yn trafod syniadau gyda’r diwydiant pysgota a rhanddeiliaid eraill. Mae hyn wedi digwydd yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n parhau ynghylch diwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.  Ym mis Mehefin a mis Hydref, roeddwn yn bresennol mewn dau gyfarfod Cyngor Pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd, lle gwnaed penderfyniadau allweddol ynghylch Rheoliadau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd a’r dull ariannu i’w gefnogi. Cyflwynwyd mewnbwn er mwyn sicrhau bod profiadau pysgodfeydd Cymru, yn arbennig natur gynaliadwy ein pysgodfeydd bach arfordirol, yn medru dylanwadu ar y broses.  Rwy’n bwriadu gwneud datganiad llawnach ym mis Ebrill 2013 yn gosod y Strategaeth newydd, gan gynnwys gweledigaeth ar gyfer pysgodfeydd yng Nghymru a’r cynllun i gyflawni’r weledigaeth honno.  

Daeth yr ymgynghoriad ‘Rheoli Pysgodfeydd Cocos yng Nghymru’ i ben ym mis Hydref eleni, ac ers hynny, mae fy swyddogion wedi bod yn casglu ac yn cofnodi’r ymatebion a dderbyniwyd.  Roedd y rhai a ymatebodd yn gynrychiolaeth eang o’r diwydiant casglu cocos, grwpiau ehangach, grwpiau buddiannau cymunedol ac unigolion y mae’r sefyllfa yn effeithio arnynt neu sy’n bryderus am y sefyllfa.  Mae’r ymatebion wedi cael eu casglu, eu hystyried yn ofalus a’u dadansoddi. Bydd crynodeb llawn o ganfyddiadau’r adolygiad yn cael ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.

Yn fy natganiad nodais fy mwriad i edrych ar ffyrdd o gryfhau cysylltiad y rhanddeiliaid gyda’r sector pysgodfeydd mewndirol. Er i mi nodi’r bwriad i ymgynghori yn yr hydref, mae fy swyddogion yn trafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i’r argymhellion gael eu cadarnhau. Rwy’n bwriadu gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch yr adolygiad yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Ar 29 Mai 2012 hysbysais yr aelodau fy mod wedi llofnodi Concordat Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig ar ran Gweinidogion Cymru.  Mae’r Concordat yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer gweinyddu cwotâu pysgod a thrwyddedu cychod pysgota yn y dyfodol yn y Deyrnas Unedig.  Un o’r prif faterion oedd yn fy wynebu oedd sicrhau bod digon o gwota ar gyfer cychod 10 metr o hyd neu lai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.  Mae’r trafodaethau ynghylch y mater hwn wedi bod yn anodd; fodd bynnag, rwy’n credu fy mod nawr wedi llwyddo i gael y fargen orau i Gymru ac rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion Pysgodfeydd eraill yn y DU i nodi hyn.  Yn unol â’r Concordat, bydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am reoli cwotâu o 1 Ionawr 2013 ymlaen.

Rwy’n falch o gyhoeddi i mi gyflwyno Offeryn Statudol newydd ar 1 Tachwedd er mwyn diogelu rîff cregyn dilyw (Modiolus modiolus) sydd newydd gael ei ddarganfod oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgotwyr rhag defnyddio offer pysgota sy’n llusgo’r gwaelod yn yr ardal lle mae’r rîff a’r glustogfa o’i hamgylch. Mae ‘Riffiau’ yn sensitif iawn i offer pysgota sy’n llusgo’r gwaelod fel rhwyd dreillio am gregyn bylchog a rhwyd dreillio drawst. Mae rîff cregyn dilyw arall gerllaw eisoes yn cael ei diogelu gan Is-ddeddf 21 y cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (NWNWSFC).  Mae’r Gorchymyn yn diogelu’r ddwy rîff a hefyd, mae’n dirymu is-ddeddf 21.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddais fy nghynlluniau i’w gwneud yn orfodol i dracio pob cwch sy’n ymwneud â’r bysgodfa cregyn bylchog. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn er mwyn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol. Rwy’n falch o gyhoeddi i’r Gorchymyn ddod i rym ar 1 Tachwedd ar ddechrau’r tymor pysgota cregyn bylchog. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi swyddogion i weld lleoliad pob cwch cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru er mwyn hwyluso gyda’r gwaith o reoli’r bysgodfa.

O ran cael gwared â hawliau mynediad hanesyddol, cyhoeddais ar 18 Gorffennaf 2012 fy nghynnig i gael gwared â’r hawliau mynediad presennol o fewn y parth 0-6 milltir fesul cam. Mae’r diwydiant, ar y cyfan, wedi croesawu’r cam hwn i gael gwared ar yr ‘hawliau mynediad hanesyddol’.  Mae cael gwared ar yr amryfuseddau hyn yn flaenoriaeth ac fe fydd yn creu strategaeth pysgodfeydd hirdymor sy’n deg ac sy’n trin pysgotwyr yn gyfartal. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am yr offeryn arfaethedig am dri mis fel sy’n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Safonau Technegol.  Mae swyddogion yn edrych ar y manylion, ac rwy’n disgwyl gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch ei weithredu yn gynnar yn 2013.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi crynodeb o’r newyddion diweddaraf ynghylch fy nyheadau i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy a phroffidiol i Gymru yn yr ardal fewndirol. Rwy’n disgwyl gwneud cyhoeddiadau ynghylch argymhellion pellach yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd yn y Flwyddyn Newydd.