Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 7 Tachwedd, cafodd y presgripsiynau cyntaf yng Nghymru eu trosglwyddo'n ddigidol rhwng meddyg teulu claf a'i fferyllfa gymunedol. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at ddigideiddio pob presgripsiwn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru.

Y tro diwethaf imi roi gwybodaeth i’r Aelodau am y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol oedd ym mis Ionawr. Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth bellach am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

Mae'r portffolio, a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy'n cynnwys pob bwrdd iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn parhau i wneud cynnydd da ar draws ei bedwar maes blaenoriaeth:

  • Gofal sylfaenol, sy'n cynnwys gweithredu'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.
  • Gofal eilaidd, sy'n canolbwyntio ar ddigideiddio gweithgareddau presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau ar draws pob ward ym mhob un o ysbytai'r GIG yng Nghymru. Mae cynlluniau hefyd, maes o law, i drosglwyddo gwybodaeth am bresgripsiynau yn electronig, wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty ac o adrannau cleifion allanol, i fferyllfeydd cymunedol.
  • Mynediad i gleifion a datblygu swyddogaethau o ran meddyginiaethau o fewn Ap GIG Cymru, gan gynnwys caniatáu i bobl archebu presgripsiwn rheolaidd, gweld gwybodaeth am feddyginiaethau, enwebu fferyllfa o'u dewis, a chael gafael ar wybodaeth am eu meddyginiaethau.
  • Cofnod Meddyginiaethau a Rennir – creu lleoliad canolog, lle y bydd gwybodaeth am feddyginiaethau person yn cael ei chadw. Bydd yr wybodaeth ar gael yn rhwydd, bydd yn hawdd ei rhannu a bydd rheolaethau priodol ar waith. Bydd yn galluogi gwybodaeth am feddyginiaethau i gael ei throsglwyddo'n ddi-dor, mewn amser real, rhwng lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd a rhwng sefydliadau'r GIG.

Ers 7 Tachwedd, mae presgripsiynau digidol wedi bod yn cael eu trosglwyddo rhwng Canolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington yn y Rhyl. Hoffwn ddiolch i'r staff yn y feddygfa a'r fferyllfa am eu cefnogaeth fel y rhai cyntaf i fabwysiadu'r dechnoleg Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.

Er mwyn gallu defnyddio'r dechnoleg hon yng Nghymru, mae’n ofynnol i gyflenwyr masnachol, sy'n darparu systemau TG i feddygfeydd a fferyllwyr cymunedol, ddatblygu meddalwedd. ‌Mae rhai o'r cyflenwyr hyn yn gwneud cynnydd yn gynt nag eraill – felly bydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno fesul cam yn seiliedig ar ba bryd y bydd systemau ategol yn barod. Mae'r tîm portffolio yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mor gyflym â phosibl.

Mae'r tîm portffolio hefyd wedi dechrau edrych ar sut y gall lleoliadau gofal sylfaenol eraill – deintyddion, optometryddion a fferyllwyr-bresgripsiynwyr annibynnol – ddefnyddio presgripsiynu digidol i sicrhau bod y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir yn ddarlun cyflawn o'r holl bresgripsiynau.

O fewn gofal eilaidd, mae'r ddau fwrdd iechyd cyntaf wedi dewis cyflenwyr systemau presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig a ffefrir ac yn gweithio tuag at ddyfarnu contractau. Mae'r holl fyrddau iechyd ar y trywydd i gyhoeddi eu dogfennaeth gwahoddiad-i-dendro cyn diwedd y flwyddyn galendr. Maent hefyd yn bwriadu dechrau gweithredu'n gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym a bod gwersi yn cael eu rhannu rhwng eu timau.

O ran mynediad i gleifion, mae'r swyddogaeth archebu presgripsiwn rheolaidd ar gael o fewn Ap GIG Cymru ar gyfer y bobl hynny y mae eu meddygon teulu wedi galluogi'r swyddogaeth. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr archebu presgripsiwn rheolaidd yn hawdd ac yn gyflym. Mae swyddogaethau eraill, gan gynnwys y gallu i enwebu fferyllfa gymunedol a ffefrir i gael presgripsiynau a'r gallu i gael gwybod pan fydd presgripsiwn yn barod o fewn yr ap, yn cael eu datblygu a dylai'r rhain fod ar gael cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn olaf, mae cynnydd pwysig wedi'i wneud ar y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir o ran sicrhau'r gallu technegol sydd ei angen er mwyn digideiddio presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau a galluogi'r Cofnod i fynd yn fyw. Bydd hyn yn caniatáu i ddata gael eu rhannu'n electronig rhwng systemau er mwyn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal i gleifion. Mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar alluogi gwybodaeth am feddyginiaethau, alergeddau a rhyddhau cleifion o'r ysbyty i gael ei rhannu rhwng systemau i helpu clinigwyr i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol a gwella gofal i gleifion.

Cyhoeddwyd Cylchlythyr Iechyd Cymru, sy'n nodi'r ffordd gyson y bydd data'n cael eu rhannu (gyda rheolaethau priodol ar waith) ‌ym mis Mehefin. Roedd y Cylchlythyr hwn yn ategu'r Hysbysiad Newid Safonau Data ar gyfer Meddyginiaethau ac Alergeddau a gyhoeddwyd yn 2022. Bydd y rhain yn galluogi gwybodaeth am feddyginiaethau i gael ei rhannu yn ddi-dor ac yn ddiogel rhwng systemau ac yn dileu'r angen am drawsgrifio â llaw. Mae'r tîm yn parhau i ymgysylltu ag eraill ledled y DU a'r byd yn y maes hynod arloesol hwn.

Byddaf yn parhau i roi gwybodaeth i'r Aelodau wrth i'r gwaith fynd rhagddo.