Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o’r adolygiad a gyhoeddais yn ddiweddar am y trefniadau i asesu plant wrth iddynt ddechrau ar y Cyfnod Sylfaen, mae’r Athro Iram Siraj-Blatchford, Athro Addysg yn y Sefydliad Addysg ym Mhrifysgol Llundain, sy’n arbenigo yn y Blynyddoedd Cynnar, wedi cynnal adolygiad cyflym ar fy rhan ac wedi cyflwyno adroddiad am ei chanfyddiadau cychwynnol.

Cafodd y Proffil Asesu Datblygiad Plentyn ei gyflwyno ar gyfer lleoliadau a gynhelir ym mis Medi 2011, ac roedd bwriad i’w gyflwyno ar gyfer lleoliadau nas cynhelir ym mis Medi 2012 fel y bo pob plentyn yn cael ei asesu wrth iddo ddechrau ar y Cyfnod Sylfaen.

Mae’n amlwg ar ôl gwrando ar sylwadau a gyflwynwyd gan athrawon a phenaethiaid ac yn amlwg hefyd o ganfyddiadau cynnar yr Athro Iram Siraj-Blatchford fod problemau sylweddol gyda’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn.

O’r herwydd, rwyf wedi penderfynu dileu’r gofyniad i ddefnyddio’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn ym mhob lleoliad addysg.

Rwyf yn parhau i fod yn ymrwymedig i un dull asesu cyson i’w ddefnyddio gyda phlant wrth iddynt symud y eu blaenau drwy’r Cyfnod Sylfaen. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn, ar ei ffurf bresennol, yn ddigonol i ddiwallu anghenion pob ymarferydd a phob plentyn.  

Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i sicrhau ein bod yn mynd ati’n gyflym i gyflwyno yn lle’r Proffil Asesu Datblygiad Plentyn ddull o asesu sy’n un gwell o ran helpu plant i ddysgu ac i ddatblygu yn ystod eu blynyddoedd cynnar.