Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Chwefror, bûm yn cadeirio trydydd cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ac yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw.

Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad (Saesneg yn unig) yn dilyn y cyfarfod ac mae’n cynnwys manylion llawn y rhai a oedd yn bresennol. Roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys: yr argyfwng costau byw; Confensiwn Sewel; Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir; rhaglen ddeddfwriaethol ehangach Senedd y DU; Fframweithiau Cyffredin; a’r cynnydd o ran sefydlu Grwpiau Rhyngweinidogol.

Fel y nodir yn y cyd-hysbysiad, mae’r Pwyllgor wedi comisiynu gweithgor Costau Byw o swyddogion i gydlynu’r gwaith ac i gytuno ar y camau nesaf a sut i ymgysylltu â Gweinidogion.

O ran Confensiwn Sewel, mynegais bryder mawr unwaith eto ynghylch y ffaith bod Llywodraeth y DU yn tueddu fwyfwy, ers 2019, i anwybyddu penderfyniadau’r Senedd i wrthod rhoi cydsyniad i Ddeddfwriaeth y DU. Trafodwyd pwysigrwydd Confensiwn Sewel a’r angen am arferion gweithio rhynglywodraethol cryfach a thryloywder wrth weithio ar Filiau Llywodraeth y DU.

O ran Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, ailadroddais ein pryderon ynghylch dull gweithredu Llywodraeth y DU, gan gynnwys ein pryderon ynghylch y pwerau cydredol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil ar hyn o bryd – a allai ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd – a’r dyddiad machlud.

Mynegais bryderon difrifol ynghylch yr awgrym y gallai Llywodraeth y DU ailgyflwyno’r Bil Hawliau, yn ogystal â phryderon yn ymwneud â Bil Protocol Gogledd Iwerddon a’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol).

Cytunodd y Gweinidogion ei bod yn bwysig adrodd i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a’r deddfwrfeydd ynghylch gweithredu Fframweithiau Cyffredin ar ôl eu rhoi ar waith yn llawn, ac y dylai swyddogion gynnal asesiad ar y rhaglen, gan gynnwys asesiad ar effaith materion sy’n dod i’r amlwg.

Nododd y Gweinidogion y cynnydd hyd yma o ran sefydlu Grwpiau Rhyngweinidogol. Disgwylir i'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael ei gynnal nesaf ym mis Mawrth a Llywodraeth y DU fydd yn cadeirio, yn unol â’r trefniadau cylchdroi.