Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 12 Mawrth, cadeiriais chweched cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ('y Pwyllgor'). Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ar y pryd, Jane Hutt AS, hefyd yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru. 

Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sy'n cynnwys manylion llawn am bawb arall a oedd yn bresennol (dolen allanol, Saesnegy un unig). Gan mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ers ailsefydlu Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, agorais y cyfarfod drwy groesawu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Galluogodd yr agenda drafodaeth ar ystod o faterion, gan gynnwys: sut i gefnogi cymunedau aml-ffydd a meithrin cydlyniant cymunedol; Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU (yn benodol, deddfwriaeth yn ymwneud â thybaco a fêps a Swyddfa'r Post); ac adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 

Mewn perthynas â'r drafodaeth ar gydlyniant cymunedol, amlinellodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ar y pryd, fygythiadau cyffredin i gydlyniant cymunedol, gan nodi'r naratifau rhwygol ar brydiau yn y wasg ynghylch mewnfudo. Amlygodd hefyd ddyhead Cymru i fod yn genedl noddfa. Gofynnodd am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU am ei dull o fynd i'r afael ag eithafiaeth ar-lein a nododd yr angen i edrych ar atal mewn ffordd gyfannol. Pwysleisiais yr angen am gonsensws ar y materion hyn. 

Fel rhan o'r drafodaeth yn ymwneud â'r Bil Tybaco a Fêps, nodais, er ein bod wedi cytuno i weithio gyda'n gilydd ar sail y DU gyfan yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref, nid yw'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Iechyd sy'n gweithredu ar lefel portffolio wedi cwrdd yn iawn eto. Bydd y Grŵp hwnnw'n hanfodol ar gyfer trafod y ddeddfwriaeth wrth iddi ddatblygu a sicrhau ei bod yn mynd drwy broses gydsynio'r Senedd yn ddidrafferth. Ochr yn ochr â ffocws y ddeddfwriaeth hon ar iechyd, nodais hefyd y pryderon a godwyd mewn perthynas â'r ffaith bod fêps yn eitemau plastig untro. 

Croesawais y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd fel rhan o sgandal Swyddfa'r Post ac ymholais a fyddai anghyfiawnderau tebyg yn ymwneud â'r system CAPTURE gynharach yn cael eu hystyried, pe canfyddid achosion o'r fath. 

Croesawais hefyd y lefelau ymgysylltu a chydweithredu gwell a welwyd yn ddiweddar ar Raglen Ddeddfwriaethol y DU, rhywbeth sy'n gwbl angenrheidiol os ydym am osgoi achosion eraill o dorri Confensiwn Sewel. Gofynnais am drafodaethau pellach ar lefel swyddogion i hwyluso'r cynnydd ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol; y Bil Dioddefwyr a Charcharorion; y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) a'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad.

Manteisiais ar y cyfle i dynnu sylw at adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o ystyried perthnasedd rhai o'r materion a godwyd ganddo i bawb. Yn benodol, tynnais sylw at argymhellion 1 a 2 y Comisiwn, sy'n ymwneud â chryfhau democratiaeth ac ymgysylltiad â dinasyddion – meysydd sy'n her i ni i gyd; argymhellion 4 a 5, sy'n edrych ar gryfhau mecanweithiau cysylltiadau rhynglywodraethol a Chonfensiwn Sewel – materion sy'n amlwg o ddiddordeb i bob un ohonom; ac argymhelliad 6, sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor gael ei gynnal ym mis Mehefin. Nid yw'r trefniadau cadeirio wedi'u penderfynu eto.