Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru ym mhumed cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 19 Hydref. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan Ddirprwy Brif Weinidog yr Alban ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Shona Robison ASA.

Cafodd cyd-hysbysiad ei gyhoeddi ar ôl y cyfarfod, sy'n cynnwys manylion llawn am y mynychwyr eraill.  Fe wnaeth yr agenda hwyluso trafodaeth ar ystod o faterion, gan gynnwys: yr argyfwng costau byw parhaus; y sefyllfa yn Israel a Gaza; y Papur Gwyn ar Ddatblygu Rhyngwladol, deddfwriaeth y DU ac Araith y Brenin, a gweithio rhynglywodraethol mewn perthynas ag ysmygu a fepio.

Fel y cyfeirir ato yn yr hysbysiad, nododd y Pwyllgor y gwaith trawslywodraethol ar gostau byw sy'n parhau i fynd rhagddo. Wrth wneud hynny, fe wnaethom nodi cynnig i sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol dwyochrog rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru. Amlinellais bwysigrwydd yr angen i barhau i weithio ar y cyd ar hyn yn wyneb y pryderon difrifol am y pwysau chwyddiant sy'n dal i gael eu teimlo ar hyd a lled y DU.

Fel rhan o'r drafodaeth sy'n ymwneud â materion rhyngwladol a'r Papur Gwyn ar gyfer Datblygu Rhyngwladol, fe wneuthum bwyso am roi ystyriaeth bellach i Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol. Cytunwyd i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod materion rhyngwladol yn cael eu hystyried yn briodol yn y system IGR, gan gynnwys drwy ymgysylltu ar lefel weinidogol. Mynegais fy nhristwch hefyd am y sefyllfa barhaus yn Israel a Gaza, a'r effaith y mae'n ei chael ar ein cymunedau yma yng Nghymru. Dywedais ein bod yn gweithio gyda’r heddlu a’r Comisiynwyr Troseddu, yn ogystal â grwpiau ffydd, i sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn sydd mor llawn pryder i lawer o’n cymunedau.

O ran Biliau'r DU, cyflwynais fy mhryderon mawr bod Confensiwn Sewel wedi cael ei dorri dro ar ôl tro yn ddiweddar, a'r goblygiadau cyfansoddiadol annerbyniol a niweidiol sy'n digwydd o ganlyniad. Fel y dywedais yn y fforwm hwnnw o'r blaen, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros hyn. Buom yn trafod y paratoadau ar gyfer Araith y Brenin ar 7 Tachwedd, ac wedi hynny cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 10 Tachwedd yn rhoi ein barn gychwynnol ar raglen deddfwriaeth y DU a gafodd ei chyhoeddi.

Bu'r Pwyllgor hefyd yn trafod gwaith rhynglywodraethol mewn perthynas ag ysmygu a fepio, a chroesawais y gwaith parhaus ar y cyd sy'n digwydd ar hyn.

Byddaf yn cadeirio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol nesaf yn unol â threfniadau ar gyfer cylchdroi cadeiryddion.