Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru ym mhedwerydd cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 17 Mai.

Cafodd cyd-hysbysiad (Saesneg yn Unig)ei gyhoeddi yn dilyn y cyfarfod, sy’n cynnwys manylion llawn y rhai eraill oedd yn bresennol. Ar yr agenda roedd: Cyflwyniadau; Parthau Buddsoddi; Rhaglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth y DU gan gynnwys Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir; a’r Fframweithiau Cyffredin.  

Fel y dywedir yn y cyd-hysbysiad, nodwyd gan y Pwyllgor y gwaith dadansoddi trawslywodraethol i bennu’r hyn sy’n ysgogi anweithgarwch economaidd ymhlith unigolion ynghyd â’r gwahaniaethau ledled y DU. Nodwyd hefyd y cydweithio ar draws y grwpiau rhyngweinidogol ar y pwysau costau byw. Pwysleisiais fod costau byw yn fater hanfodol bwysig i bob llywodraeth. Mae angen inni sicrhau bod y camau pellach angenrheidiol yn cael eu pennu a’u cyflwyno ar gyfer gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn gyflym. Dylai’r penderfyniadau hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd a busnesau, sy'n parhau i wynebu pwysau difrifol yn sgil chwyddiant a’r amodau economaidd ehangach heriol. Wrth i waith fynd rhagddo yn y maes hwn, pwysleisiwyd, oherwydd nad oes grŵp rhyngweinidogol ffurfiol sy'n gysylltiedig â phortffolio'r Adran Gwaith a Phensiynau, fod bwlch yn strwythurau’r cysylltiadau rhynglywodraethol y cytunwyd arnynt ar y cyd. Gofynnais inni ystyried gyda’n gilydd sut y gallwn fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw.

Ar fater y Parthau Buddsoddi, roeddwn yn gwbl glir, fel yn achos y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, fod rhaid i’r cynnydd ar agenda’r Parthau Buddsoddi gyd-fynd â’n hamcanion a’n blaenoriaethau presennol, a’r cyfeiriad cyffredinol a bennwyd yn ein Cenhadaeth Economaidd.

Ar fater Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, cydnabûm fod gwelliannau Llywodraeth y DU i’r Bil, sy’n golygu dileu’r cymal machlud ac na fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn mynd yn ddi-rym yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn mwyach felly, yn gam i’r cyfeiriad cywir. Bydd y newidiadau yn golygu nad oes posibilrwydd y bydd deddfwriaeth bwysig mewn meysydd fel cyflogaeth, yr amgylchedd a diogelu defnyddwyr yn diflannu drwy amryfusedd a heb fod yn destun craffu gan y deddfwrfeydd. Fodd bynnag, mynegais unwaith eto ein pryderon ynghylch dull Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwerau cydredol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil ar hyn o bryd, a fyddai’n caniatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd. Rwyf wedi bod yn gyson glir, os oes unrhyw bwerau sy’n arferadwy gan Weinidogion Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig, yna dylent, fel gofyniad sylfaenol, fod yn amodol ar gael cydsyniad cadarnhaol Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, a dylid ymdrin â hyn ar wyneb y Bil.   

Ar fater y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, codais y pwynt bod y ddarpariaeth ar gyfer pennu cenadaethau ffyniant bro, y metrigau a’r targedau cysylltiedig ac adrodd ar gynnydd yn Rhan 1 o’r Bil yn cynrychioli ymyrraeth amhriodol yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym yn parhau’n barod i weithio gyda Llywodraeth y DU ar Ran 6 o’r Bil. Fodd bynnag, dim ond os ydyn nhw’n ymrwymo i newid y dull presennol sy’n cynnwys pwerau cydredol ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth y DU – pwerau y gellir eu harfer heb gydsyniad Gweinidogion Cymru – y gallwn gyflawni hyn.

Dywedais unwaith eto fod y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad diangen ac annheg ar hawliau gweithwyr ac ar undebau llafur. Mae’n fyrbwyll, mae’n annoeth, mae’n annelwig. Ni fydd y Bil hwn yn datrys anghydfodau diwydiannol a gall suro’r berthynas rhwng diwydiannau ym mhob rhan o Brydain Fawr. Cadarnheais fod y Senedd wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad i Fil sy’n osgoi yn fwriadol awdurdod ein Senedd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Nid oes modd cyfiawnhau bod Llywodraeth y DU am orfodi’r Bil hwn ar gyflogwyr a gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Ar fater Confensiwn Sewel, codais y pwynt bod achosion posibl o dorri’r Confensiwn sawl gwaith yn ystod y flwyddyn hon yn unig gan Lywodraeth y DU yn dangos ei hagwedd mor sylfaenol amharchus a dinistriol tuag at y Confensiwn, datganoli a’r Undeb. Yn syml, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros hyn ac nid yw’n gydnaws â’r gofyniad na ddylai Llywodraeth y DU ‘fel arfer’ ddeddfu heb gydsyniad. Pan nad yw’r Senedd yn rhoi ei chydsyniad i Fil gan Lywodraeth y DU, mae angen i Lywodraeth y DU ailddechrau dangos parch tuag at ddatganoli a gwrthdroi sefyllfa lle’r duedd erbyn hyn yw mynd ati i dorri Confensiwn Sewel.

Ar fater y Fframweithiau Cyffredin, nodais eu bod yn dangos bod gweithio rhynglywodraethol da yn bosibl ac y gellir rheoli cydlyniant ac ymwahanu drwy gynnal deialog adeiladol a chydweithio. Fodd bynnag, mae angen bod yn fwy cyson wrth ddefnyddio’r mecanweithiau y mae’r Fframweithiau Cyffredin yn darparu ar eu cyfer i ymgysylltu’n gynnar. Gofynnais i Lywodraeth y DU fynd ati’n bendant i gadarnhau’r pwynt hwnnw ymhlith y sawl sy’n gweithio iddi, ar lefel weinidogol a lefel yr uwch-swyddogion.

Trafododd y Gweinidogion hefyd y mater o ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys pryderon ynghylch canllawiau diweddar a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i'w swyddfeydd tramor ar ymweliadau gan weinidogion y llywodraethau datganoledig â'r gwledydd hynny. Cadarnheais na allem gytuno y dylai uwch-swyddog o Lywodraeth y DU fod yn bresennol ym mhob cyfarfod â gweinidogion llywodraethau tramor fel mater o drefn. Cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolaeth o’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn y dyfodol i drafod y mater hwn.

Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol nesaf yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth yr Alban, yn unol â’r trefniadau cylchdroi cadeirydd.