Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar 26 Mehefin 2025, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn nawfed cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Kate Forbes ASA, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth yr Alban ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Gaeleg yr Alban. Bydd cyd-hysbysiad ynglŷn â’r cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi maes o law ar wefan Llywodraeth y DU. Galluogodd yr agenda drafodaeth ar ystod o faterion gan gynnwys y strategaethau diwydiannol; yr adolygiad statudol o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU; a Chonfensiwn Sewel a Deddfwriaeth y DU.
Roeddwn yn falch o weld cyhoeddi strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU a’r ymwneud cadarnhaol a roddwyd ar waith yn ystod y gwaith o’i datblygu. Tynnais sylw hefyd at yr angen i gydweithio ar weithredu ar draws y DU, a hynny er mwyn sicrhau’r effeithiau gorau posibl gan fod elfennau o’r strategaeth yn cyd-fynd yn gryf â chryfderau rhanbarthol a chryfderau’r sector ledled Cymru. Yn ogystal, cynigiais gymorth Llywodraeth Cymru i ymwneud â chyrff masnach, y diwydiant dur a mentrau bach a chanolig yng Nghymru, a nodais ei bod yn bwysig bod llywodraethau canolog a lleol yn cydweithio ym meysydd fel Parthau Buddsoddi, Porthladdoedd Rhydd ac Ardaloedd Twf Deallusrwydd Artiffisial. Nodais fod yr Adolygiad Gwariant wedi creu cyfleoedd i Gymru o ran trafnidiaeth, gwariant ar amddiffyn a bargeinion dinesig a thwf. Yn y cyd-destun hwn, pwysleisiais y byddai cysoni ein dulliau gweithredu a gweithio mewn partneriaeth gref yn helpu i sicrhau nad yw ymdrechion yn cael eu dyblygu a bod y buddion mwyaf posibl yn cael eu sicrhau.
Yn rhan o’r drafodaeth ynghylch yr adolygiad statudol o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, nodais fy mod wedi croesawu ymwneud Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru wrth gynnal yr adolygiad. Amlinellais nod yr awgrymiadau adeiladol a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr adolygiad i ddod â Fframweithiau Cyffredin i’r amlwg, sicrhau bod effeithiolrwydd llunio polisïau datganoledig yn cael ei ddiogelu yn ogystal â chynnal gweithrediad llyfn marchnad fewnol y DU.
Yn ystod y drafodaeth ar Gonfensiwn Sewel a Deddfwriaeth y DU, ailadroddais y byddai rhoi’r Confensiwn ar sail statudol ffurfiol yn cynnig yr amddiffyniad mwyaf i awdurdodau deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig. Rwy’n gobeithio y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arfaethedig yn rhoi cyfle i gymryd cam i’r cyfeiriad cywir o ran hyn, a hynny drwy roi sylfaen fwy cadarn y cytunwyd arni ar y cyd i weithrediad ymarferol y Confensiwn. Wrth gyfrannu at drafodaethau’r cyfarfod, pwysleisiais y dylai’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hyrwyddo tryloywder yn gynnar, gan alluogi deddfwrfeydd datganoledig i gynnal gwaith craffu priodol ar filiau arfaethedig. Edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach â Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill ynghylch y mater hwn yn ystod y misoedd nesaf.
Llywodraeth Cymru fydd yn cadeirio’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, y disgwylir iddo gael ei gynnal ym mis Medi 2025.
