Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn yr wythfed cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 27 Chwefror 2025. 

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio ar y cyd gan Michelle O’Neill ACD, Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac Emma Little-Pengelly ACD, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Cafodd cyd-hysbysiad (saesneg yn unig) ei gyhoeddi yn dilyn y cyfarfod, sy’n cynnwys manylion llawn yr holl gynrychiolwyr eraill oedd yn bresennol. Diolch i’r agenda, cafwyd cyfle i gynnal trafodaeth ar ystod o faterion. Ymhlith yr hyn a drafodwyd, roedd yr adolygiad parhaus o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, Confensiwn Sewel a deddfwriaeth y DU, yr angen i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig gydweithio i ddiogelu asedau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, a’r ymgysylltu parhaus ar effaith bosibl y datblygiadau yn fyd-eang ar yr economi. 

Mewn perthynas â’r drafodaeth ar yr adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, dywedais fy mod wedi cael fy nghalonogi gan y bwriad a nodwyd i wneud fframweithiau cyffredin yn brif fecanwaith ar gyfer mynd ati ar y cyd i ystyried gwahaniaethau mewn polisi. Rwy’n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill yn y cyd-destun hwn i ail-fframio marchnad fewnol y DU mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â’n pryderon ynglŷn â Deddf Marchnad Fewnol y DU. Yn ogystal â hynny, gan gydnabod nad oedd y mater hwn yn rhan o gwmpas yr adolygiad presennol, codais bwysigrwydd cynnal trafodaethau parhaus ar lefel gweinidogion ac ar lefel swyddogion, ill dwy, ar y pwerau cymorth ariannol sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf.

Fel rhan o’r drafodaeth ynglŷn â Chonfensiwn Sewel a deddfwriaeth y DU, croesewais ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i gryfhau Confensiwn Sewel drwy ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Pwysleisiais unwaith yn rhagor y byddai ymgysylltu cynnar, manwl, yn bwysig i sicrhau bod pob llywodraeth yn fodlon â ffurf y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ei newydd wedd. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i fynd ati i gynorthwyo â’r gwaith o gyflawni hyn. Manteisiais ar y cyfle i gydnabod yr ymgysylltu a’r cyfathrebu gwell sydd wedi bod yn ddiweddar ar Raglen Deddfwriaeth y DU. 

Yn y drafodaeth ar ddefnyddio technoleg wrth ddiwygio’r sector cyhoeddus, dywedais y byddwn yn awyddus i weld mwy o ymgysylltu ar lefel swyddogion ar ddefnyddio digidol a thechnoleg i ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod cynllunio, dylid ystyried y gallu i ryngweithredu er mwyn sicrhau ei bod yn bosibl, er enghraifft, i gofnodion iechyd a mynediad at apiau y GIG fod ar gael os bydd pobl yn symud o un ardal o’r DU i un arall. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn asiant darparu pwysig ar gyfer strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru ac mae cronfa arloesi yn bodoli i hyrwyddo dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau. Mae diddordeb gan Lywodraeth Cymru mewn ymgorffori Deallusrwydd Artiffisial mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fel mecanwaith ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yr un mor hygyrch i gymunedau gwledig. Mae Deallusrwydd Artiffisial hefyd yn rhan bwysig o’n gwaith ar dechnoleg iaith Gymraeg. Soniais am bwysigrwydd parhau i weithio ar draws llywodraethau, cwmnïau technoleg a phartneriaid ehangach i wella Deallusrwydd Artiffisial a’i bod hefyd yn bwysig bod technolegau eraill sy’n dod i’r amlwg ar gael yn ddwyieithog. 

Yn olaf, argymhellodd y Pwyllgor fod swyddogion ar draws pob llywodraeth yn ystyried trefniadau gweithio ar lefel portffolio. Y nod drwy wneud hyn yw sicrhau bod y dulliau ymgysylltu rhyngweinidogol yn gweithredu yn effeithlon ac yn effeithiol o fewn y strwythurau priodol. Bydd y canfyddiadau a’r argymhellion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor gytuno arnynt mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Llywodraeth yr Alban fydd yn cadeirio’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, y disgwylir iddo gael ei gynnal ym mis Mai 2025.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.