Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn fy natganiad llafar yfory, yr wyf heddiw yn cyhoeddi adroddiad y Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Bydd yr Aelodau yn cofio fy mod wedi darparu datganiad ysgrifenedig ar 22 Mai 2023 yn cyhoeddi lansiad yr ymgynghoriad. 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys:

  • Cynigion ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth a Gomisiynir
  • Swyddogaethau arfaethedig ar gyfer y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth
  • Cynigion ar Fframwaith Tâl a Dilyniant drafft ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a ddatblygwyd gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol
  • Newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 2 a Chanllawiau Statudol Rhan 9 yn ymwneud â sut y mae awdurdodau lleol yn bodloni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Cryfhau trefniadau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi mwy o weithio rhwng awdurdodau lleol a'r GIG
  • Newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 8 ar rôl Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdodau lleol a'r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol cysylltiedig

Derbyniwyd 96 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar draws amrediad o sectorau ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r ymatebion hynny ynghyd â'n hymateb ninnau. Un elfen yn unig o'n gwaith ehangach i gryfhau gofal cymdeithasol yw'r rhaglen waith hon ar gyfer Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Mae sefydlu'r Swyddfa Genedlaethol dros Ofal Cymdeithasol a'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth a Gomisiynir yn gamau pwysig ar hyd y llwybr tuag at ein nod yn y pen draw o greu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru, am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen. Mae hwn yn un o ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Y llynedd, derbyniodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru a minnau adroddiad terfynol y Grŵp Arbenigol a sefydlwyd i lunio argymhellion ar gyfer y camau ymarferol tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Dros yr wythnosau nesaf, rydym yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cychwynnol.