Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 27 Ionawr,  codwyd cwestiwn ynghylch y broblem fod safleoedd bychain posibl ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ei chael yn anodd i gysylltu â'r rhwydwaith dosbarthu o fewn amser a chost sy'n ymarferol.  Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y seilwaith ynni strategol, sy'n cynnwys popeth sy'n gysylltiedig â'r grid, rwy'n cyhoeddi'r datganiad hwn i roi'r newyddion diweddaraf ar y mater.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau naturiol pan fo hynny'n briodol.  

Rydym yn ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol o ran y rhwydwaith a'r grid, ac yn trafod y goblygiadau gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem.  

Er ei fod yn bwysig fod datblygwyr yn talu am y gwelliannau sy'n ei gwneud yn bosibl iddynt gysylltu â'r grid, rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddileu'r rhwystrau o ran gallu cysylltu.  

Byddwn yn parhau i weithio i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer datblygiadau ynni o bob math.