Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn gweithredu ar y lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth.

Mae dechrau tymor llywodraeth leol newydd, felly, yn amser da i fyfyrio ar waith Llywodraeth Cymru gyda’r sector cynghorau cymuned a thref a’i chefnogaeth ar ei gyfer. Mae hefyd yn bwynt defnyddiol i fyfyrio ar ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar y cyd ar gyfer y dyfodol.

Yn gyntaf, hoffwn gydnabod y rôl allweddol y mae cynghorau cymuned a thref wedi’i chwarae yn eu cymunedau yn ystod pandemig COVID-19. Aeth llawer o gynghorau y tu hwnt i’r disgwyl, gan fynd ati yn eu cymdogaethau i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud cychwynnol. Rwy’n ymwybodol bod llawer o gynghorau yn helpu eu cymunedau yn yr argyfwng costau byw presennol, drwy wasanaethau megis cymorth ar gyfer prisiau tanwydd a thocynnau mesurydd rhagdaledig, cymhorthdal ar gyfer siopa bwyd a ‘phryd ar glud’ i’r henoed. Dyma enghraifft o gymorth ar lefel cymdogaeth ar waith. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i bob cyngor cymuned am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ers y diweddariad diwethaf ym mis Mawrth 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y sector i feithrin capasiti a galluogrwydd cynghorau i gyflawni ar gyfer eu cymunedau.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref, a gafodd ei ddatblygu ar y cyd ag Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a chyda sylwadau ategol gan Archwilio Cymru. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cefnogi cynghorau i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol, bod â rheolaeth ariannol a llywodraethu cryf a sicrhau’r canlyniadau gorau i’w cymunedau.
  • Cymorth i glercod cynghorau i ymgymryd â’r cymhwyster sector-benodol CiLCA (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol), gyda chyllid yn cael ei ddarparu i dalu’r gost lawn.
  • Cyllid i gymell a galluogi cynghorwyr i ymgymryd â hyfforddiant, gyda phwyslais arbennig ar reolaeth ariannol a llywodraethu, a chod ymddygiad.
  • Adnewyddu Canllaw’r Cynghorydd Da yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022, i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gynghorwyr i gyflawni eu dyletswyddau.
  • Gweithio gyda’r Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol i lunio asesiad o alluedd a galluogrwydd digidol cynghorau cymuned a thref.

Rydym wedi cynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned cymwys drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”), sy’n rhoi’r hyblygrwydd i gynghorau fod yn arloesol wrth gefnogi eu cymunedau.

Mae’r Ddeddf hefyd yn creu dyletswyddau newydd i gynyddu amlygrwydd gwaith cynghorau gyda’u cymunedau, megis y ddyletswydd i gyhoeddi adroddiadau blynyddol a’r hawl i aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor. Bydd y gofynion newydd i adrodd ar eu gwaith yn ei gwneud yn haws i gymunedau ddeall rôl a chyfraniad eu cyngor yn eu cymunedau. Cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar 10 Mehefin i gefnogi cynghorau cymuned a thref i gyflawni eu pwerau a’u dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf. Mae angen inni ganiatáu amser er mwyn i’r camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd wneud gwahaniaeth.

Fodd bynnag, mae data cynnar o etholiadau mis Mai 2022 yn awgrymu bod mwy o waith i’w wneud i sicrhau cyfranogiad gweithredol mewn cynghorau cymuned a thref. Roedd y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyngor cymuned diweddaraf ychydig o dan 40% - tua 5% yn is nag yn 2017. Roedd tua 60% o’r seddi cyngor yn seddi ddiymgeisydd a thua 15% o seddi’n cael eu gadael yn wag, i’w llenwi drwy gyfethol. Mae hyn ymhell o fod yn foddhaol. Mae cynghorau cymuned yn gyfle i ysgogi newid cymunedol cadarnhaol drwy ein lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth. Er mwyn i’r ddemocratiaeth hon fod yn effeithiol, mae dau fater allweddol y mae’n rhaid inni weithio arnynt gyda’n gilydd. Y cyntaf yw sicrhau bod gan bobl ddewis gwirioneddol o ran pwy sy’n eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn hanfodol i bobl deimlo’n gysylltiedig â democratiaeth ac eisiau ymgysylltu â hi. Yn ail, mae sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn rhan o’r lefel hon o ddemocratiaeth yn ffordd o ysgogi newid ac felly’n dymuno rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer etholiad.

Nid yw’r rhain yn newidiadau y gall Llywodraeth Cymru eu cyflawni ar ei phen ei hun. Er enghraifft, yn ddiweddar cyhoeddais ddatganiad ar y camau nesaf o ran hyrwyddo amrywiaeth mewn llywodraeth leol a gweld cynghorau cymuned fel agwedd allweddol wrth fynd ymlaen â’r gwaith hwn. Rwy’n bwriadu gweithio gyda’r sector yn y misoedd nesaf i ymateb i’r heriau hyn. Rwyf hefyd yn croesawu sylwadau gan yr Aelodau fel rhan o’r broses hon.