Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth 10 mlynedd newydd, Strategaeth Dementia 2026-36, a fydd yn olynu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia.
Mae hwn yn gam pwysig yn natblygiad y strategaeth – bydd yr adborth o'r ymgynghoriad yn helpu i siapio'r blaenoriaethau ymhellach ac i lywio'r ffordd y byddwn yn eu rhoi ar waith.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar saith prif faes:
- Atal a lleihau risg pobl o ddatblygu dementia.
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia.
- Gwella diagnosis, triniaeth, gofal a chymorth dementia.
- Cefnogi gofalwyr di-dâl pobl sy'n byw gyda dementia.
- Cefnogi’r gweithlu.
- Cefnogi ymchwil ac arloesi ym maes dementia.
- Sicrhau bod y trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd cywir ar waith i weithredu’r strategaeth.
Mae'r strategaeth a'i blaenoriaethau wedi'u datblygu mewn partneriaeth â phobl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu gofalwyr a'u harbenigwyr. Mae'r cyfraniad hwn wedi bod yn werthfawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r grwpiau gorchwyl a gorffen allanol am eu hamser a'u hymrwymiad.
Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 6 Ebrill 2026. Mae hwn yn gyfnod estynedig oherwydd gwyliau'r Nadolig ac er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl yn cymryd rhan. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cyhoeddi'r fersiwn derfynol o'r Strategaeth Dementia i Gymru.
