Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru am ei Gabinet newydd ar 3 Tachwedd 2017, adolygwyd y gynrychiolaeth ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De.

Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio yn ymuno â'r tasglu.

Mae cyfraniad y Gweinidogion yn arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amcanion y tasglu; mae'n sianelu'r grym a'r adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth er mwyn newid pethau.