Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn Ionawr 2012, fe gomisiynodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru yr Athro Marcus Longley o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg i ymgymryd ag asesiad annibynnol o’r dystiolaeth ynghylch newid i wasanaethau’r GIG, gan edrych yn benodol ar y trefniant gorau ar gyfer gwasanaethau ysbytai Cymru.

Mae’r Trefniant Gorau ar gyfer Gwasanaethau Ysbytai Cymru yn adolygu’r dystiolaeth o’r hyn sy’n cynrychioli’r ‘gorau’ o ran darpariaeth ysbytai ac yn asesu cryfder a goblygiadau’r dystiolaeth.

Mae’r Athro Longley wedi cwblhau ei waith, ac fe gyflwynodd ddarganfyddiadau’r ymchwil bwysig ac allweddol hon i Aelodau Cynulliad mewn digwyddiad yn y Senedd y bore ’ma.  

Mae’r adolygiad yn casglu nad yw bob claf yng Nghymru yn cael y canlyniadau gorau posib o’u gofal ysbyty a bod achos cryf dros newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau ysbyty yn cael eu trefnu.

Mae rhai o brif ddarganfyddiadau’r adroddiad yn dangos:

• nad yw’r trefniant presennol o wasanaethau ysbyty yn darparu'r canlyniadau gorau yn unffurf i gleifion ar draws Cymru;

• bod angen gwella ansawdd y gwasanaeth mewn rhai meysydd os yw Cymru i gael gwasanaethau y medrir eu cymharu gyda’r systemau gofal iechyd gorau yn y byd;

• os na weithredir yn gyflym, mae prinder staff meddygol mewn rhai gwasanaethau yn debygol o arwain at gau'r gwasanaethau hyn yn ddigynllun ac efallai chwalu'r gwasanaethau;

• bod yr arbenigo cynyddol mewn rhai mathau o wasanaethau yn golygu bod canoli rhai staff clinigol yn arwain at well ganlyniadau i gleifion yn yr arbenigaethau hyn;

• bod natur gofal iechyd yn golygu fod llawer o wasanaethau ysbyty yn rhyngddibynnol ac y gallai'r canlyniadau ar gyfer cleifion fod yn well os yw rhai mathau o wasanaethau yn cael eu cyd-leoli ar un safle; a

• gellir lleihau effaith y pellteroedd teithio hirach sy’n cael eu creu o ganlyniad i ganoli drwy fabwysiadu arferion gorau mewn gofal cyn-ysbyty, gan gynnwys defnydd ehangach ac effeithiol o delefeddygaeth a darparu gwell gysylltiadau trafnidiaeth.

Rydw i’n croesawu gwaith yr Athro Longley, sy’n atgyfnerthu’r achos dros newid.  Mae wedi ymroi i’r astudiaeth hon o safbwynt gwbl annibynnol ac wedi casglu’r dystiolaeth ynghyd fel ag y mae.  Does ganddo ddim safbwynt bartisan i’w hyrwyddo.  Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth gref o bersbectif clinigol – nid o bersbectif gwleidyddol.

Nod Y Trefniant Gorau ar gyfer Gwasanaethau Ysbytai Cymru yw galluogi’r darllenydd i benderfynu drosto’i hun o ran y rhesymau pam fod angen newid y patrwm presennol o wasanaethau, ond mae hefyd yn awgrymu nifer o bynciau mawr y mae’n rhaid i’r GIG eu hwynebu.  Mae hefyd yn ein hatgoffa’n glir na all y GIG fod yn hunanfodlon os yw i gyflwani’r nod o ddarparu gwasanaethau y medrir eu cymharu gyda’r gorau yn y byd.

Mae adroddiad yr Athro Longley wedi’i ysgrifennu’n bennaf ar gyfer cynulleidfa leyg – hynny yw y bobl sy’n becso am ddyfodol gwasanaethau iechyd, pobl sydd eisiau penderfynu drostynt eu hunain, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a rhwng y farn anghyson sydd weithiau’n cael ei chyflwyno gan ffynhonellau eraill.

Mae’r ffocws ar yr hyn mae’r dystiolaeth yn awgrymu o ran darpariaeth, cynllun a threfniant ysbytai yng Nghymru.  Mae’n ddiduedd, yn seiliedig yn unig ar y dystiolaeth a adolygwyd, ac mae unrhyw farn a fynegir ar sail y dystiolaeth yn glir.

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad heddiw, bydd GIG Cymru a Phrifysgol Morgannwg yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau cyswllt rhanbarthol, a fydd yn cynnig cyfle i randdeiliaid lleol drafod y darganfyddiadau.