Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Heddiw, rwy'n cadarnhau y bydd y trothwy incwm ar gyfer dechrau ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr o dan Gynllun 2 yn aros yn £29,385 dros y tair blynedd ariannol rhwng 2027-28 a 2029-30. Bydd y trothwyon cysylltiedig ar gyfer y cyfraddau llog is ac uwch hefyd yn aros yr un fath, sef £29,385 a £52,885 yn y drefn honno.
Nid dyma'r penderfyniad y byddwn wedi dewis ei wneud. Yn anffodus, mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi'r trothwyon hyn ar gyfer benthycwyr Lloegr o dan Gynllun 2 yn golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru lawer o ddewis. Mae ad-daliadau benthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu gweinyddu gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi trwy system a rennir ledled y Deyrnas Unedig. Er bod Gweinidogion Cymru yn pennu polisi ar gyfer benthycwyr Cymru, ni all y system bresennol ddarparu ar gyfer trothwyon ad-dalu gwahanol i fenthycwyr Cymru a Lloegr. Byddai angen newidiadau sylweddol i'r system dros sawl blwyddyn ac ni ellid eu gweithredu cyn 2027-28. Felly, mae'n anochel y bydd y trothwy ar gyfer benthycwyr Cynllun 2 Cymru yn cael ei rewi.
Rwy'n cydnabod yr effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael, ac rwy'n gwybod y bydd yn siom i fenthycwyr Cymru. Bydd benthycwyr Cynllun 2 Cymru yn parhau i elwa ar drothwy ad-dalu uwch na benthycwyr Lloegr o dan Gynllun 5, a bydd unrhyw fenthyciad sy'n weddill yn cael ei ddileu ddeg mlynedd yn gynt. Mae ein grantiau cynhaliaeth, gan gynnwys y grant sylfaenol cyffredinol o £1,020, yn golygu bod benthycwyr Cymru, ar gyfartaledd, yn ysgwyddo llai o ddyled na'u cymheiriaid yn Lloegr. Yn ogystal, rydym yn dileu hyd at £1,500 o ddyled benthyciad myfyrwyr.
Bydd materion cyllid myfyrwyr yn cael eu hystyried drwy'r Adolygiad o Addysg Uwch, ond ar hyn o bryd cynnal sefydlogrwydd y system yw'r cam cywir. Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, ystyriais yn ofalus a oedd unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru liniaru'r effaith ar fenthycwyr yng Nghymru. Yn yr hinsawdd gyllidol bresennol, nid oes modd gwneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol sylweddol mewn perthynas â'r system benthyciadau myfyrwyr. Mae rhewi'r trothwy, er ei fod yn anochel, yn golygu bod gan yr Adolygiad rywfaint mwy o hyblygrwydd ariannol wrth ystyried trefniadau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn y dyfodol. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu dull 'Gwnaed yng Nghymru' mwy cadarn ar gyfer cyllid myfyrwyr. Mae'r Adolygiad, dan arweiniad yr Athro Patrick Prendergast, ar y gweill, a bydd yn galluogi'r Llywodraeth hon i greu system gyllid myfyrwyr sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n adlewyrchu anghenion prifysgolion, dysgwyr a benthycwyr Cymru yn well na'r system a etifeddwyd gennym.
