Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn hysbysu Aelodau'r Cynulliad am y camau y bwriedir eu cymryd yn dilyn y cyhoeddiadau ynghylch ardrethi busnes yn Natganiad yr Hydref.

Yn Natganiad yr Hydref, cyhoeddwyd y byddai'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach sydd wedi bodoli ers mis Hydref 2010 yn cael ei ymestyn i 2014-15 yn Lloegr.  

Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru am flwyddyn ariannol arall, felly bydd y cymorth hwnnw ar gael drwy gydol 2014-15.  

Rydym wedi pwyso'n gyson ar Drysorlys ei Mawrhydi i barhau â'r Cynllun, gan dynnu sylw at ei werth i fusnesau bach Cymru.  Tynnwyd sylw at hyn hefyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes, a gafodd gefnogaeth eang.

Bydd y cynllun yn parhau i ddarparu cymorth gwerthfawr i fusnesau bach ledled Cymru.  Bydd y meini prawf presennol i fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun yn parhau, ac fe fyddaf cyn hir yn trefnu gosod y rheoliadau priodol gerbron y Cynulliad.  

Hefyd, roedd cyhoeddiad pellach yn Natganiad yr Hydref ynghylch gostyngiad dros dro o £1,000 mewn ardrethi busnes ar gyfer eiddo manwerthu a bwyd am ddwy flynedd o 1 Ebrill 2014 ymlaen.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes wedi cynhyrchu corff o waith sy'n cynnwys y sector manwerthu a chanol trefi, ac maent hefyd wedi ystyried effaith gohirio'r dyddiad ailbrisio.

Gan ystyried eu cyngor, rwyf eisoes wedi ymrwymo i edrych ar y potensial ar gyfer cronfa wedi'i thargedu i helpu busnesau sydd wedi gweld effaith negyddol yn sgil gohirio'r dyddiad ailbrisio. Felly, rwyf wedi gofyn i'm Swyddogion ystyried amrywiol opsiynau sy'n addas i Gymru.

Byddaf yn parhau i roi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.