Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r pandemig yn parhau i gyflwyno heriau a phryderon difrifol mewn perthynas ag addysg a lles. Ar gyfer dysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, rwy’n deall bod y pryder hwn yn arbennig o ddifrifol.

Ym mis Tachwedd, dywedais fy mod yn bwriadu canslo arholiadau gan fod dysgwyr eisoes wedi dioddef amharu sylweddol ar eu haddysg. Roedd y cynigion a gyflwynwyd yn ddiweddarach wedi’u cynllunio i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr, ac i ymateb i unrhyw amharu yn y dyfodol. Cawsant dderbyniad da ar y cyfan gan y gymuned addysg.

Ers hynny, mae’r argyfwng iechyd y cyhoedd wedi gwaethygu. Oni bai bod cyfraddau trosglwyddo’r haint yn y gymuned yn gostwng yn sylweddol erbyn 29 Ionawr, bydd ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu o bell ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr tan hanner tymor mis Chwefror. O ganlyniad, bu’n rhaid inni ailedrych ar ein cynigion ar gyfer cymwysterau.

Mae’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni wedi ailymgynnull bellach, ac wedi datblygu cynigion diwygiedig yn y cyd-destun newydd hwn. Mae hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth fanwl i adroddiad terfynol yr adolygiad annibynnol o gymwysterau dan arweiniad Louise Casella, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 22 Ionawr.

Rwyf bellach wedi ystyried cynigion diwygiedig y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, ac wedi eu derbyn fel fy mholisi ar gymwysterau yn 2021. Ceir crynodeb o'r rhain isod.

Yn gyntaf, fy mwriad yw y bydd dysgwyr sy'n dilyn cyrsiau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru yn derbyn cymwysterau wedi’u dyfarnu drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan.

Mae hyn yn golygu y bydd graddau'n cael eu pennu gan eu hysgol neu eu coleg yn seiliedig ar asesiad o waith y dysgwr.

Bydd modd i ysgolion a cholegau ddefnyddio ystod o dystiolaeth i bennu graddau i’w dyfarnu i’w dysgwyr, gan gynnwys asesiadau di-arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth. Hefyd bydd CBAC yn cynnig cyfres o bapurau blaenorol wedi'u haddasu i alluogi ysgolion i barhau i asesu’r dysgu o fewn eu cynlluniau addysgu, er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i athrawon a dysgwyr. 

Bydd Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda CBAC, a chânt eu cynorthwyo gan y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, i ddarparu fframwaith asesu i helpu ysgolion a cholegau i ddatblygu eu cynlluniau asesu. Dylai’r cynlluniau asesu ddangos digon o sylw i gysyniadau allweddol i ganiatáu i ddysgwyr symud ymlaen, a manylion am sut mae’r Ganolfan wedi pennu gradd y dysgwr. Bydd CBAC yn sicrhau ansawdd y cynlluniau asesu hyn.

Yn ail, gan gydnabod yr heriau sy'n codi yn sgil y tarfu parhaus a gorfod dysgu o bell, mae'r terfynau amser a'r rheolaethau sy’n ymwneud ag asesiadau nad ydynt yn arholiadau yn cael eu dileu ac ni fyddant yn cael eu cymedroli gan CBAC.

Fodd bynnag, lle y bo'n bosibl, byddem yn annog ysgolion a cholegau i helpu dysgwyr i ymgymryd â rhai o'u hasesiadau di-arholiad i barhau i feithrin sgiliau a dysgu. Mae meithrin gwybodaeth a sgiliau, ac ymdrin â chysyniadau craidd i gefnogi cynnydd, yn flaenoriaeth o hyd a dylid parhau i ganolbwyntio ar hyn, gyda chymorth ein canllawiau a'n dull o ddysgu o bell fel y bo'n briodol.

Yn drydydd, wrth ochr y Fframwaith Asesu, bydd CBAC yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion a cholegau i ddatblygu prosesau sicrhau ansawdd mewnol, a bydd y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni yn rhoi sylw i’r modd y gellir sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Unwaith y bydd y broses sicrhau ansawdd wedi'i chwblhau yn y Ganolfan, bydd y radd yn cael ei chyflwyno i CBAC. Ni fydd unrhyw ymyrraeth yn y cyfamser ar y graddau. Bydd dysgwyr yn apelio i'w hysgol neu eu coleg os ydyn nhw'n anhapus â'u gradd, ac i CBAC os ydyn nhw'n anhapus â'r broses.

Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni helpu Cymwysterau Cymru a CBAC i ddatblygu ac amlinellu’r Fframwaith Asesu a’r broses sicrhau ansawdd. Ochr yn ochr â’r fframwaith a’r canllawiau, bydd hyfforddiant i ymarferwyr fel bod prosesau’n cael eu cymhwyso’n gyson ac yn deg.

Yn achos dysgwyr ym Mlwyddyn 10 sydd i fod i gwblhau cymhwyster eleni, bydd y dull hwn yn berthnasol, ond ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr sydd i fod i gymryd unedau asesu unigol.

Bydd dysgwyr ym Mlwyddyn 12 yn cael gradd UG a Bennir gan Ganolfan. Bydd hynny’n cydnabod eu gwaith caled a'u dysgu eleni, yn eu galluogi i symud ymlaen i astudio cwrs Safon Uwch, ac yn cefnogi ceisiadau UCAS, ond ni fydd yn cyfrannu at y dyfarniad Safon Uwch terfynol yn 2022.  

Rwyf hefyd wedi gofyn i'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni ystyried trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat fel blaenoriaeth: rhaid inni sicrhau bod opsiwn clir i’r Grŵp Cynghori gefnogi eu cynnydd nhw hefyd. Rwy'n ddiolchgar i'r Grŵp Cynghori am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth barhaus wrth i'r dull o ymdrin â chymwysterau gael ei ddatblygu.

Mae'r dull gweithredu hwn o ran cael Gradd a Bennir gan Ganolfan, yn gosod ymddiriedaeth yn ymrwymiad athrawon a darlithwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael, a'u gwybodaeth am ansawdd gwaith eu dysgwyr.

Rydym wedi ceisio sicrhau bod y drefn raddio mor glir â phosibl o dan yr amgylchiadau, gan barhau i fod mor syml â phosibl. Addysgu cynnwys craidd a gwahanol agweddau ar bob cwrs yw’r flaenoriaeth absoliwt o hyd i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, er mwyn eu cefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'r camau nesaf, a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddynt.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i edrych ar sut y gellid cefnogi dysgwyr yng Nghymru drwy'r cyfnod hwn, a phontio i gyrsiau prifysgol. Mae’r trafodaethau a'r ymrwymiadau cychwynnol gan ein prifysgolion wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Yn yr un modd, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach ac ysgolion i weld sut y gallant gefnogi'r dysgwyr hynny sydd ym mlynyddoedd 10, 11 a 12 ar hyn o bryd, wrth iddynt symud i'r flwyddyn academaidd newydd. Mae'n hanfodol i’r sector addysg ehangach barhau i ddod ynghyd i gefnogi ein dysgwyr.

Wrth i ni barhau i weithio'n gyflym i ddatblygu'r cynigion hyn, rwy'n annog dysgwyr, athrawon a darlithwyr i ganolbwyntio ar ddysgu meysydd craidd eu cyrsiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Y dysgu hwn, a datblygu sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig, fydd yn parhau i agor drysau i ddysgwyr yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl i'r cymhwyster ei hun gael ei ddyfarnu.

Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am eu hyblygrwydd a'u parodrwydd i addasu yn barhaus wrth ymateb i'r sefyllfa yr ydym ynddi.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar i’r Senedd ar 26 Ionawr, a fydd yn gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ac ymateb i gwestiynau.

Grwp Cynghori Dylunio a Chyflawni